Adnoddau AI ar gyfer gofal cymdeithasol
Mae'r adnoddau yn cynnwys animeiddiad byr a chyfres o bosteri sy'n dadansoddi themâu craidd y canllaw, gan helpu pobl i:
- dysgu am AI a pham ei fod yn bwysig i ofal cymdeithasol
- deall sut mae AI yn gweithio
- ystyried y prif egwyddorion ar gyfer defnyddio AI yn gyfrifol
- deall pwysigrwydd caniatâd gwybodus wrth ddefnyddio offer AI
- nodi meysydd lle gallai AI gefnogi eu gwaith.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi trafodaethau tîm, sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth ehangach, a gellir eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â'r canllaw llawn.