Adroddiad gweithwyr gofal cymdeithasol ifanc yng Nghymru
Mae'r adroddiad byr hwn yn archwilio llwybrau, cymhellion, ymrwymiadau a phrofiadau gweithwyr gofal cymdeithasol uniongyrchol sy’n 30 oed ac iau ac yn gweithio yng Nghymru.
Fe wnaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd y gwaith hwn ar ein rhan fel rhan o arolwg Dweud Eich Dweud 2026, ein harolwg blynyddol o’r gweithlu.
Mae'n edrych ar ddata cyfweliadau gyda gweithwyr gofal uniongyrchol a chanfyddiadau arolwg Dweud Eich Dweud 2026. Roedd y cyfweliadau yn canolbwyntio ar y grŵp hwn oherwydd bod eu profiadau yn y sector gofal cymdeithasol wedi'u tangynrychioli ym mhrif ymatebion yr arolwg.
Mae hefyd yn archwilio eu profiadau o waith gofal cymdeithasol yn fanylach. Mae’n llywio dadleuon ar recriwtio a chadw mewn gofal cymdeithasol a dyfodol gwaith gofal cymdeithasol.