
Telerau ac amodau ein gwasanaeth anogaeth arloesedd
Drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth anogaeth arloesedd rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau canlynol:
1. Cymhwysedd
Mae'r gwasanaeth ar gyfer timoedd o bedwar neu mwy mewn rolau gofal cymdeithasol sy'n gweithio i arloesi neu wella eu hymarfer i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol gwell. Rydyn ni am glywed gan dimau sydd â syniadau maen nhw am eu datblygu a phrofi ar lawr gwlad o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Mae anogaeth arloesedd yn agored i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
- awdurdodau lleol
- darparwyr preifat neu annibynnol o wasanaethau gofal oedolion a phlant
- sefydliadau trydydd sector neu sector gwirfoddol ac elusennau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru
- Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru: sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru
- pobl o sefydliadau partner eraill a chyrff gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn ôl disgresiwn Gofal Cymdeithasol Cymru.
Pwy sydd ddim yn gymwys?
Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal plant blynyddoedd cynnar, efallai na fyddwch yn gymwys. Os nad ydych chi’n siwr os ydych chi’n gymwys, cysylltwch â ni cyn i chi lenwi’r ffurflen mynegi diddordeb. Mae ein tîm bob amser yn hapus i drafod syniadau a chymhwysedd cyn i chi gyflwyno'ch ffurflen mynegi diddordeb.
2. Ceisiadau
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar ôl derbyn ffurflen mynegi diddordeb wedi'i chwblhau. Mae cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb yn dangos eich bod chi'r ymgeisydd neu ymgeiswyr yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn.
Bydd anogwyr yn cael eu dyrannu gan y Rheolwr Anogaeth Arloesedd ar ôl trafod gyda phanel dethol. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost wedi i chi gyflwyno'ch cais, ac ar ôl i benderfyniad cael ei wneud. Dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau dros y ffôn.
Dyw cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb ddim yn gwarantu anogaeth.
Ni fydd mwy na dwy rownd o anogaeth yn cael ei gynnig i unrhyw ymgeisydd.
3. Cadarnhad
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cadarnhad o gyflwyno'u ceisiadau drwy e-bost, a bydd cadarnhad o'r penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 21 diwrnod.
Os yw anogwr wedi'i ddyrannu, byddan nhw mewn cysylltiad i drefnu trafodaeth cyn anogaeth ac i drefnu amserlen ar gyfer pryd y bydd anogaeth yn digwydd.
4. Ein cyfrifoldeb i ddiogelu eich data
Rydyn ni wedi cofrestru fel Rheolwr Data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. At ddibenion y gwasanaeth hwn rydyn ni'n casglu a phrosesu'r wybodaeth hon fel rhan o'n rhwymedigaethau cyfreithiol. O dan adran 69 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf"), gallwn roi cyngor i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth gofal a chymorth neu gymorth arall (gan gynnwys grantiau) at y diben o annog gwelliant yn narpariaeth y gwasanaeth hwnnw.
Mae'r wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- prosesu ceisiadau
- cadw rhestr o ymgeiswyr
- cysylltu â chi am y gwasanaeth anogaeth arloesedd
- rhoi gwybod i chi am hyfforddiant, dysgu ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth Anogaeth Arloesedd
- gweithgareddau diagnostig ac anogaeth
- darparu adborth ar y gwasanaeth anogaeth arloesedd a bod yn rhan o'i werthusiad
- gwahoddiadau i fynychu digwyddiadau a rhwydweithio
- llunio ystadegau at ddibenion monitro ac adrodd.
Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gyda:
- panel dethol
- unigolion sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth anogaeth arloesedd
- cyflenwyr trydydd parti sy'n ymwneud â gwerthuso'r gwasanaeth anogaeth arloesedd.
Mae gennych chi hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoli sut rydyn ni'n defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei newid, ei ddileu neu gyfyngu ar sut rydyn ni'n ei ddefnyddio. I wneud hyn, cysylltwch â Kate Salter, ein Swyddog Diogelu Data (DPO), ar kate.salter@gofalcymdeithasol.cymru.
5. Cymhwyso safonau cyfle cyfartal i'n prosesau mynegi diddordeb a dethol
5.1 Mae'r safonau hyn yn nodi'r nodau a'r amcanion wrth gynnal a hyrwyddo cyfle cyfartal a chyfrifoldebau'r anogwyr a thîm Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r tîm anogaeth arloesedd ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo'n llawn i fabwysiadu a hyrwyddo egwyddorion allweddol a threfniadau gwaith y safonau hyn.
5.2 Mae cyfle cyfartal yn cael ei gydnabod gan Ofal Cymdeithasol Cymru fel hawl sylfaenol i bob defnyddiwr a chan y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau anogaeth.
5.3 Ni fydd unrhyw anogwr nac unigolyn neu tîm yn cael triniaeth lai ffafriol yn ystod mynegi diddordeb, cyfnodau dethol na sesiynau anogaeth, ar sail hil, crefydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu oedran.
5.4 Mae cyfle cyfartal yn cael ei gydnabod gan dîm Gofal Cymdeithasol Cymru i fod o fudd cadarnhaol i ddysgu.
5.5 Gwneir anogwyr drwy hyn yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau posibl dros sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu hyrwyddo yn ystod eu proses sefydlu. Rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw fod yn effro i arfer gwahaniaethol gwirioneddol neu bosibl ganddyn nhw eu hunain ac eraill sy'n ymwneud â hwyluso gweithgareddau anogaeth mewn unrhyw ffordd.
5.6 Gall unrhyw ymarfer y mae'r tîm anogaeth arloesedd yn ei arsylwi neu ystyried sy’n mynd yn groes i'r safonau hyn arwain at anogwyr yn tynnu eu cefnogaeth i brosiect yn ôl.
5.7 Bydd prosesau yn cael eu cynllunio i gefnogi'r safonau hyn.
5.8 Mae gan unrhyw anogwr, grŵp neu unigolyn yr hawl i godi unrhyw agwedd o'r gweithgareddau anogaeth yn ffurfiol os ydyn nhw'n credu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu neu aflonyddu.
5.9 Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn monitro gweithrediad y polisi hwn a chanlyniadau ei ddefnydd yn rheolaidd.
6. Ein cynnig iaith
Rydyn ni'n cynnig ein holl wasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau ar gyfer ein gwasanaeth anogaeth arloesedd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fyddwn yn trin un iaith yn fwy ffafriol na'r llall.
Byddwn yn defnyddio eich dewis iaith i gefnogi sut mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig i chi.
Os nad ydych chi'n hapus gyda sut mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddarparu i chi drwy'r Gymraeg, cysylltwch ag Angharad Dalton, ein Rheolwr Anogaeth Arloesedd, a byddwn yn ymateb i'ch pryderon.
7. Cwynion
Os nad ydych chi'n hapus gyda safon y Gwasanaeth Anogaeth Arloesedd sy'n cael ei ddarparu, gallwch naill ai gysylltu a'n Rheolwr Anogaeth Arloesedd Angharad Dalton, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer ymchwil, data ac arloesi Emma Taylor-Collins, neu gallwch gwblhau ein ffurflen gwyno.
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd,