Archwilio data: Graffiau a chrynodebau rhifiadol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Lefel ragarweiniol - dim angen gwybodaeth flaenorol
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd y cwrs rhad ac am ddim hwn, Archwilio data: graffiau a chrynodebau rhifiadol, yn eich cyflwyno i nifer o ffyrdd o gynrychioli data yn graffigol ac o grynhoi data yn rhifiadol.
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- deall a defnyddio symbolau a nodiant safonol
- deall y gall data fod â phatrwm y gellir ei gynrychioli ar ffurf graff
- deall bod y gwyriad safonol a'r amrediad rhyngchwartel yn fesurau o'r gwasgariad mewn set ddata
- deall bod y canolrif a'r amrediad rhyngchwartel yn fesurau gwrthsefyll cryfach na'r cymedr a'r gwyriad safonol
- dangos dealltwriaeth cyffredinol o ddata a'r ffordd y caiff ei ddosbarthu trwy adeiladu arddangosiadau graffigol priodol.
Tagiau sgiliau:
- data
- dadansoddi data
- graffiau