Skip to Main content
Untitled design 14

Cwrs 5 diwrnod mewn Rhaglennu Python

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Lefel ragarweiniol - dim angen gwybodaeth flaenorol

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Byddwch chi’n edrych ar fathau o ddata sydd wedi’i gynnwys yn barod yn Python, gan gynnwys rhifau, llinynnau, rhestrau, tŵpls a geiriaduron, ac yn dysgu sut mae modd eu defnyddio i ddatrys problemau gwahanol.

Mae'r cwrs yn cyfuno addysg dan arweiniad tiwtor gyda sesiynau ymarferol, ac yn rhoi cyfleoedd i chi ysgrifennu, profi a gwella eich rhaglenni eich hun.

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, dylech chi allu gwneud y canlynol:
- Egluro’r gwahaniaethau rhwng rhifau, llinynnau, rhestrau, tŵpls a geiriaduron
- Ysgrifennu sgriptiau Python sy’n derbyn mewnbwn drwy’r bysellfwrdd
- Ysgrifennu sgriptiau Python sy'n derbyn argiau llinell orchymyn
- Darllen a phrosesu cofnodion sydd wedi'u storio mewn ffeiliau testun
- Defnyddio meta-gymeriadau a pharu patrymau i ddewis cofnodion o ffeiliau testun
- Storio ac adfer cofnodion gan ddefnyddio cronfa ddata allweddol

Bydd yr addysgu’n cael ei gynnal mewn gweithdai cyfrifiadurol ymarferol yn yr adeilad Dysgu Gydol Oes, 50–51 Plas y Parc, Caerdydd.

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd traddodiadol a sesiynau labordy. Bydd pum cyfarfod dyddiol, gyda phob un yn para pum awr. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn labordy.

Lleoliad

50-51 Plas y Parc, Cathays, Caerdydd, CF10 3AT

Tagiau sgiliau:

  • python
  • rhaglennu