Cyflwyniad i ddata a gwybodaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Lefel ragarweiniol - dim angen gwybodaeth flaenorol
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- adnabod rhai o'r achosion mewn lleoliad gofal lle mae cyfrifiadur yn gysylltiedig, neu'n debygol o fod,
- disgrifio, mewn termau syml, y gwahaniaeth rhwng data a gwybodaeth
- rhoi diffiniad syml o pam mae cyfrifiaduron yn bwysig i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol o ran data a gwybodaeth
- esbonio mewn termau syml beth yw rhaglen gyfrifiadurol, a pham mae un yn angenrheidiol
- esbonio rôl y cyfrifiadur mewn perthynas â'r data a roddir iddo a sut y gall hyn wella darparu iechyd a gofal cymdeithasol.
Tagiau sgiliau:
- data
- gofal cymdeithasol