Skip to Main content
Untitled design 16

Cyflwyniad i Gyflwyno Data

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chyfathrebu ystadegau i bobl nad ydynt yn ystadegwyr neu sy’n adrodd ar ddata – o unrhyw ddisgrifiad. Gall fod o fewn sefydliad, i gymunedau penodol ac i’r cyhoedd yn gyffredinol lle mae neges yn cael ei rhoi.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Mae'r cwrs 3 awr hwn wedi ei anelu at unigolion sydd angen deall sut i arddangos a dehongli data, a'r gobaith erbyn diwedd y cwrs yw y bydd ganddynt well dealltwriaeth o'r dulliau sydd ar gael ar gyfer arddangos data a'r offer i arddangos data'n briodol ac yn glir, gan ddefnyddio graffiau a thablau.

Pynciau dan sylw:
- Mathau o ddata
- Crynhoi data
- Dangos data
- Egwyddorion Tufte ar gyfer arddangos data meintiol yn weledol
- Problemau/gwallau cyffredin wrth ddangos data
- Cyflwyniadau a phosteri

Tagiau sgiliau:

  • data
  • cyflwyno data