BSc Cyfrifiadureg a Gwyddor Data
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Israddedig
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd gradd Cyfrifiadureg a Gwyddor Data yn eich dysgu sut i wneud synnwyr o’r setiau mawr hyn o ddata – gan nodi’r hyn sydd ei angen, dadansoddi a phrosesu’r data, a’i wneud yn hawdd ei ddarllen a’i ddeall.
Wedi’i llywio gan anghenion y diwydiant, bydd y radd yn eich arfogi â’r sgiliau y mae galw amdanynt i ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn.
Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau megis gofal iechyd, cyllid, manwerthu ac e-fasnach, trafnidiaeth a logisteg, ynni a chyfleustodau, marchnata cyfryngau cymdeithasol a gwyddorau amgylcheddol.
Tagiau sgiliau:
- data
- gwyddor data
- cyfrifiadureg