Dangosfyrddau Rhyngweithiol ac Apiau Gwe gan ddefnyddio R a Shiny
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae angen bod yn gyfarwydd â'r iaith R gan y bydd nifer o gysyniadau gweddol gymhleth yn cael eu cyflwyno yn y cwrs hwn.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno sut i greu dangosfyrddau rhyngweithiol a chymwysiadau gwe gan ddefnyddio R a Shiny.
Bydd y diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar elfennau craidd ap Shiny; mewnbynnau, allbynnau a sut i anfon data rhwng y cleient a'r gweinydd. Bydd hefyd yn ymdrin â sut i ddylunio rhaglenni gwe ymatebol sy'n gweithio'n ddi-dor ar ddyfeisiau symudol. Erbyn diwedd y dydd, byddwch yn gallu dylunio a defnyddio ap Shiny o'ch peiriant lleol i shinyapps.io.
Bydd ail ddiwrnod y cwrs yn cynnwys defnyddio mynegiadau adweithiol i reoli pryd a ble mae ap Shiny yn cael ei ddiweddaru, plannu siartiau/mapiau/tablau rhyngweithiol, rhoi modd i ddefnyddwyr lwytho ffeiliau/delweddau i lawr o ap Shiny, a chyngor ac arweiniad ar strwythuro apiau Shiny mawr/cymhleth.
Tagiau sgiliau:
- data
- cyflwyno data
- delweddiadau
- R
- Shiny