Skip to Main content
SCW TRL image size1

Dod yn Was Cyhoeddus Hyderus gyda Data

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Unrhyw was cyhoeddus neu luniwr polisi sydd eisiau teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â darllen a gweithio gyda data.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Nid yw'n gyfrinach bod data yn bwnc llosg yn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae adroddiadau’n cael eu hysgrifennu amdano, mae hyfforddiant ar draws y llywodraeth yn cael ei gyflwyno mewn rhai gwledydd ac mae’n cael ei ystyried yn gyffredinol fel y sgil pwysicaf y gall gwas cyhoeddus ei ddysgu ers ysgrifennu e-bost.

Ond nid sgil yw un o’r rhwystrau mwyaf i gofleidio data yn y gwasanaeth cyhoeddus o reidrwydd; hyder ydi o.

Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, byddwch yn dysgu sut i feithrin eich hyder gyda data yn y gwasanaeth cyhoeddus. Darganfyddwch pam mae hyder data yn hanfodol i weision cyhoeddus mewn unrhyw rôl, pa fath o gwestiynau y dylech eu gofyn i ymdrin â data a pha fath o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i weithio gyda’r data.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
- Mynegi beth yw ‘data’ a pham ei fod yn bwysig i bob gwas cyhoeddus
- Cynnal sgwrs ddeallus am ddata
- Deall hanfodion casglu data, dehongli a chyfathrebu

Tagiau sgiliau:

  • data
  • ystadegau