Dysgu Dadansoddi Data
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Rhagarweiniol (ni thybir bod gwybodaeth flaenorol)
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae'r cwrs hyfforddiant hwn yn dysgu agweddau sylfaenol dadansoddi ac adrodd data i ddadansoddwyr a'r rhai nad ydynt yn ddadansoddwyr.
Mae'r pynciau'n cynnwys beth yw dadansoddeg data a beth mae dadansoddwyr data yn ei wneud, yn ogystal â sut i adnabod eich set ddata - gan gynnwys y data nad oes gennych chi - a dehongli a chrynhoi data. Mae hefyd yn cynnwys sut i gyflawni tasgau arbenigol megis creu diagramau llif gwaith, glanhau data, ac ymuno setiau data ar gyfer adrodd.
Tagiau sgiliau:
- data
- dadansoddi data