BSc Gwyddor Data
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Israddedig
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
A oes gennych ddiddordeb yn y ffordd rydym yn gwneud synnwyr o'r terabeitiau o wybodaeth mae ein cyfrifiaduron yn eu casglu bob dydd? Ydych chi am ennill y sgiliau i ragfynegi beth fydd pobl yn ei brynu? Neu ble mae angen i ni roi rhagor o adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd a threfniadaeth?
Mae galw cynyddol am bobl sy'n gallu dadansoddi a gwneud synnwyr o'r data sydd bellach ar gael, yn enwedig Data "Mawr". Mae ein gradd mewn Gwyddor Data yn fan cychwyn delfrydol i weithio yn y maes hwn. Byddwch yn mwynhau addysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil mewn amgylchedd meithringar sy'n hybu dyfeisgarwch a meddwl "y tu allan i'r bocs" i fynd i'r afael â'r galw cynyddol o ran data.
Tagiau sgiliau:
- data
- cronfeydd data
- rhaglennu
- ystadegau