Sgiliau Data Allweddol i Bawb
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sefydliad ond nid mewn rolau data penodol. Mae’n cyflwyno cysyniadau allweddol ynghylch casglu data, dadansoddi data ac adrodd straeon data mewn ffordd hygyrch a phleserus.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Dros y cwrs bydd cyfranogwyr yn archwilio, deall a bod yn hyderus wrth drafod:
Casglu a chategoreiddio data a sut mae deinameg grym a fframio cymdeithasol yn effeithio ar y rhain.
Archwilio data. Archwilio setiau data i weld pa gwestiynau sy’n codi o’r data a sut y gellir eu hateb o setiau data pellach.
Adrodd straeon data. Sut i werthuso delweddu data yn feirniadol a deall yr hyn y mae'n ceisio ei gyfleu. Gwahanol ffyrdd y gellir adrodd straeon data a chryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau.
Dadansoddi testun. Gwahanol ffyrdd y gellir dadansoddi ffeiliau testun a chanlyniadau dewis gwahanol ddulliau. Goblygiadau dadansoddi testun ar agweddau o AI.
Dadansoddiad rhwydwaith cymdeithasol. Gwahanol ffyrdd y gellir dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol a goblygiadau'r dadansoddiad hwn i sut mae llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol yn gweithredu.
Tagiau sgiliau:
- data
- dadansoddi data
- delweddiadau