
Ystadegau Canolradd
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at unigolion sydd â rhywfaint o wybodaeth ystadegol sylfaenol ac sy'n dymuno cynnal dadansoddiadau o ddata meintiol ac sydd felly am gael rhywfaint o fewnwelediad i sut i wneud y rhain.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd y diwrnod cyntaf yn dechrau gydag adolygiad byr o gysyniadau profi damcaniaeth a dewis y prawf cywir. Bydd hyn yn cynnwys y defnydd sylfaenol o feddalwedd Jamovi i gynnal a dehongli prawf-t annibynnol cyn symud ymlaen i'r dechneg gysylltiedig ANOVA. Bydd gwirio tybiaeth, ANOVA dwy ffordd a rhyngweithiadau yn dod a'r bore i ben.
Mae'r ail ddiwrnod yn dechrau gyda chydberthynas ac atchweliad llinol syml i asesu'r berthynas rhwng dau newidyn di-dor cyn canolbwyntio ar atchweliad lluosog sy'n caniatáu i newidynnau lluosog gael eu profi ar yr un pryd. Bydd y ddwy sesiwn yn canolbwyntio ar gynhyrchu a deall allbynnau yn hytrach na chynnwys mathemategol gydag ymarferion rheolaidd i atgyfnerthu dysgu.
Tagiau sgiliau:
- data
- ystadegau