Skip to Main content

Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer: sesiynau gwybodaeth

Dewch i ddysgu mwy am sut y gallwn ni gefnogi chi, neu’ch tîm!  

Beth yw symudedd gwybodaeth? 

Mae symudedd gwybodaeth yn golygu defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer: gan wneud tystiolaeth yn hygyrch, yn glir ac yn ddefnyddiol i'r rhai sydd ei hangen.” 

Mae ein cynnig yn anelu at wneud y canlynol: 

  • dod â phobl ynghyd 
  • archwilio a defnyddio tystiolaeth mewn ffyrdd creadigol a chynhwysol 
  • cefnogi gweithio amlddisgyblaethol 
  • mynd i’r afael â heriau ymarfer a dylanwadu ar newid 
  • gwella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.  

Y sesiynau gwybodaeth 

Byddwn ni’n rhannu: 

  • sut y gallwn ni gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ymgysylltu ag ymchwil a thystiolaeth yn eu hymarfer 
  • enghreifftiau o’n gwaith blaenorol a chyfredol gydag awdurdodau lleol. 

Bydd hyn yn help i chi ddeall ein cynnig cymorth a’i fuddion ar gyfer pobl sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Mae croeso mawr i bawb. 

Cofrestrwch yma. 

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar ein cynnig symudedd gwybodaeth yma.