Adeiladu gofal cysylltiedig: Helpu i lunio dyfodol rhannu gwybodaeth mewn gofal cymdeithasol
Adeiladu gofal cysylltiedig: Helpu i lunio dyfodol rhannu gwybodaeth mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol? Os felly, rydym am i chi ymuno â ni yn un o ddwy sesiwn ryngweithiol, wyneb yn wyneb, wedi'u cynllunio i helpu i lunio sut y gellir defnyddio gwybodaeth a rennir i wella gofal a chymorth ledled Cymru.
Bydd cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.
Rydym yn chwilio am safbwyntiau gan ymarferwyr gofal cymdeithasol, rheolwyr, staff cymorth, timau diogelu, gweithwyr cymdeithasol, ac unrhyw un sy'n ymwneud â gofal pobl i'n helpu i wella’r canlyniadau i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi ac i gael effaith gadarnhaol ar eich profiad yn y gwaith.
Efallai eich bod wedi profi rhwystredigaethau oherwydd y diffyg gwybodaeth rydych chi wedi'i chael am berson o fewn eich gofal? Efallai bod hysbysiad rhyddhau o leoliad iechyd heb gynnwys gwybodaeth allweddol? Neu efallai y byddai gwybodaeth ychwanegol wedi cefnogi eich penderfyniadau?
Beth bynnag yw eich profiad gyda gwybodaeth a rennir, rydyn ni eisiau ei chlywed. Nid oes angen i chi ddod ag atebion (er ein bod yn eu croesawu os oes gennych chi rai).
Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau rhagarweiniol am y gwaith rydym yn ei gwneud i foderneiddio'r ffordd rydym yn defnyddio a rhannu gwybodaeth, ynghyd â gweithdai ymarferol lle gallwch rannu eich profiadau a'n helpu i archwilio atebion posibl.
Ni fydd angen unrhyw wybodaeth dechnegol ar gyfer y sesiynau ac maent yn addas i bawb.
Mae clywed lleisiau gwahanol yn allweddol, yn enwedig gan bobl nad ydynt fel arfer yn teimlo bod ganddynt gyfle i rannu.
Mae eich mewnwelediad a'ch profiad yn hanfodol i lunio system sy'n gweithio'n well i bobl Cymru. Edrychwn ymlaen at y posibilrwydd o'ch croesawu i un o'r sesiynau.
Gallwch gofrestru drwy lenwi'r ffurflen hon.
Diolch.