Skip to Main content

Creadigrwydd a Chyfranogiad Mewn Gwerthuso

Mae 40 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Trwy gydol ein holl sesiynau rydym yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad ac ymgysylltiad effeithiol mewn gwerthuso. Fodd bynnag, bydd y sesiwn hon yn rhoi mwy o fanylion ynghylch pam mae cyfranogiad effeithiol mor bwysig, yn ogystal ag archwilio offer creadigol a chyfranogol y gallwch eu defnyddio i gynyddu ymgysylltiad a mesur effaith.

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio adrodd straeon, delweddau a fideos ar gyfer gwerthuso yn ogystal â dulliau difyr megis eiliadau hud / trasig a’r newid mwyaf arwyddocaol.

Mae'r sesiwn hon bellach yn llawn - ymunwch â'r rhestr aros