Skip to Main content

Gwahanol ffyrdd o archwilio straeon

Gwahanol ffyrdd o archwilio straeon
 

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Beth fydd y sesiwn yn ei gwmpasu
Gellir archwilio straeon mewn gwahanol ffyrdd. Gall timau bach neu grwpiau mwy ddod at ei gilydd i wneud yr archwiliad hwn.

Bydd y sesiwn beilot hon yn ymdrin â sut i archwilio straeon am newid a straeon profiad. Byddwn yn darparu awgrymiadau ar sut i ddadansoddi cynnwys a themâu mewn straeon. Rhoddir sylw i archwilio straeon fel grŵp, ond bydd y prif ffocws ar sut y gellir archwilio straeon fel tîm bach. Bydd adborth o'r rhediad peilot hwn yn helpu i ddatblygu sesiynau yn y dyfodol.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?
Mae’r sesiwn hon ar gyfer pobl sydd eisiau cyflwyniad sylfaenol i ddulliau y gellir eu defnyddio i archwilio a dadansoddi straeon. Gan mai peilot yw’r sesiwn hon, mae’n gyfle i lywio sesiynau yn y dyfodol ar ddadansoddi stori.

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Gill Toms ar: g.toms@bangor.ac.uk

Archebwch le