
DEEP: Rhannu tystiolaeth rhif
Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Beth fydd y sesiwn yn ei gwmpasu
Wrth rannu unrhyw dystiolaeth (gan gynnwys tystiolaeth sy’n seiliedig ar rifau) mae’n bwysig ymgysylltu â chalon a meddyliau pobl. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â rhai egwyddorion sylfaenol ynghylch rhannu tystiolaeth seiliedig ar rifau ac yna’n rhoi rhagflas o sawl dull rhannu gan gynnwys defnyddio straeon, delweddau, a dulliau creadigol eraill. Bydd cyfleoedd i ymarfer rhai o'r dulliau hyn. Byddwn yn darparu 15 munud opsiynol ar ddiwedd y sesiwn (h.y., 12.30-12.45) i’r rhai sy’n dymuno aros a rhwydweithio.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyd-hwyluso gan Yaz Wolfe (Ymarferydd Ymchwil Arweiniol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd â phrofiad helaeth o rannu tystiolaeth.
Pwy allai elwa o'r sesiwn?
Byddai’r sesiwn o fudd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhannu tystiolaeth, yn enwedig y rhai sy’n ceisio rhannu data seiliedig ar rifau. Fodd bynnag, nodwch fod y sesiwn yn canolbwyntio ar ddulliau o rannu gwybodaeth yn hytrach na dadansoddi data.
Archebwch eich lle a darganfod mwy