Skip to Main content

DEEP: Rhannu tystiolaeth, gyda ffocws ar rhifau

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Beth fydd y sesiwn yn ei gwmpasu

Wrth rannu unrhyw dystiolaeth (gan gynnwys tystiolaeth sy’n seiliedig ar rifau) mae’n bwysig ymgysylltu â chalon a meddyliau pobl. Prif ffocws y sesiwn yw rhoi rhagflas o sawl dull rhannu gan gynnwys defnyddio straeon, delweddau, a dulliau creadigol eraill. Bydd cyfleoedd i ymarfer rhai o'r dulliau hyn. Byddwn hefyd yn cyffwrdd â rhai egwyddorion sylfaenol wrth rannu tystiolaeth seiliedig ar rifau..

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyd-hwyluso gan Yaz Wolfe (Ymarferydd Ymchwil Arweiniol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd â phrofiad helaeth o rannu tystiolaeth.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Bydd y sesiwn o fudd i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd â diddordeb mewn rhannu tystiolaeth, yn enwedig y rhai sy'n ceisio rhannu data sy'n seiliedig ar rifau. Fodd bynnag, nodwch fod y sesiwn yn canolbwyntio ar ddulliau o rannu gwybodaeth yn hytrach na dadansoddi data neu gyflwyno data.

Archebwch eich lle

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y sesiwn neu gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms ar: g.toms@bangor.ac.uk