Skip to Main content

DEEP: Pynciau trafod

Pynciau trafoddefnyddio datganiadau pryfoclyd mewn dysgu ar y cyd

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Be fydd y sesiwn yn ei gwmpasu

Mae ‘Pynciau trafod’ yn ddatganiadau pryfoclyd sy’n cael pobl i gymryd rhan mewn trafodaeth gyfunol a dysgu myfyriol am bwnc penodol.

Mae'r dull hwn yn cefnogi cyfranogwyr i adeiladu a deall gwybodaeth, yn hytrach na'i orfodi arnynt, sy'n gweithio'n arbennig o dda mewn meysydd ymarfer y gellid eu herio, megis cymryd risgiau. Bydd y sesiwn yn esbonio cysyniad Pwyntiau Siarad ac yn darparu dulliau ymarferol gan gynnwys set o ymarferion i archwilio risg a gwneud penderfyniadau ym maes gofal dementia. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar gymhwyso'r dull hwn i wasanaethau plant a theuluoedd.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi dysgu myfyriol a chydgynhyrchu. Mae’r dull yn caniatáu i safbwyntiau lluosog gael eu mynegi a’u harchwilio, gan weithio tuag at sicrhau dealltwriaeth ehangach o bynciau cymhleth a gwneud penderfyniadau mwy cytbwys.

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk

Archebwch le