Dad-Dirgelu Gwerthuso - Cyflwyniad
Mae 40 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae casglu dysg a dangos effaith eich gwaith yn hanfodol mewn gofal cymdeithasol, a gall ymarfer gwerthuso eich helpu i wneud hyn. Fodd bynnag, gall gwerthusiadau ddrysu pobl, felly mae'r sesiwn hon yn gyflwyniad sylfaenol i werthuso mewn gofal cymdeithasol, wedi'i hanelu at unrhyw un sydd ag ychydig neu ddim profiad o wneud gwerthusiadau. Ein nod yw ‘dad-dirgelu’r’ broses werthuso a dangos sut y gall unrhyw un sydd â’r meddylfryd cywir ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau presennol i gipio dysgu a dangos effaith yn well. Bydd y sesiwn yn ymdrin â:
- beth yw gwerthuso a sut y gall fod o fudd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
- pam a phryd i gynnal gwerthusiadau
- agweddau allweddol o feddylfryd gwerthuso
- cyflwyniad i rai dulliau gwerthuso cyffredin.
Mae'r sesiwn nawr yn llawn - ymuno â'r rhestr aros