Skip to Main content

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: Gwahanol ffyrdd o archwilio straeon

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Beth fydd y sesiwn yn ei gwmpasu

Gellir archwilio straeon mewn gwahanol ffyrdd. Gall timau bach neu grwpiau mwy ddod at ei gilydd i wneud yr archwiliad hwn.

Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â sut i archwilio straeon a bydd yn rhoi awgrymiadau ar sut i ddadansoddi cynnwys a themâu mewn storïau. Rhoddir sylw i archwilio straeon fel grŵp, ond bydd y prif ffocws ar sut y gellir archwilio straeon fel tîm bach.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Mae’r sesiwn hon ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol sydd eisiau cyflwyniad sylfaenol i ddulliau y gellir eu defnyddio i archwilio a dadansoddi straeon.

Archebwch eich lle

Os hoffech chi ddarganfod mwy am y sesiwn neu gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms ar: g.toms@bangor.ac.uk