Skip to Main content

Gweithdy sgiliau arloesi: Deall y broblem, dod o hyd i atebion gwell

Weithiau, y rhwystr mwyaf i wneud cynnydd yw ceisio datrys y broblem anghywir.

Bydd y sesiwn ymarferol hon yn cyflwyno offer syml i'ch helpu i ddeall heriau cymhleth, nodi'r achosion sylfaenol ac archwilio cyfleoedd i newid.

Gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o faes gofal cymdeithasol, byddwn yn edrych ar sut y gall mynd ati i ystyried problem o safbwyntiau gwahanol eich helpu i nodi cyfleoedd newydd a datblygu atebion gwell.

Byddwch yn gadael y sesiwn gyda thechnegau ymarferol i:

  • ddiffinio a chwmpasu materion cymhleth
  • archwilio safbwyntiau gwahanol
  • nodi anghenion a chyfleoedd sylfaenol
  • llunio datganiadau problem cliriach sy'n helpu i lywio gweithredu.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Angharad Dalton, ein Pennaeth Gallu ac Anogaeth Arloesedd.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres ehangach. Darllenwch ein darn newyddion am fwy o wybodaeth.