Skip to Main content

DEEP: Mapio Effaith Crychdonni

Sesiwn Peilot: Cyflwyniad i Mapio Effaith Crychdonni

Mae 24 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Y sesiwn
Mae hon yn sesiwn beilot. Byddwn yn archwilio cryfderau a chyfyngiadau Mapio Effaith Crychdonni. Byddwn yn trafod rhai o'r gwahanol ffyrdd y gellir ei ddefnyddio, a byddwn yn siarad trwy'r camau allweddol a gynhwysir fel arfer. Mae Natalie Coates-Pryor o Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru (RIC) yn cyd-hwyluso'r sesiwn a bydd yn rhannu ei phrofiad a'i dysgu o ddefnyddio REM.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Bydd y sesiwn o fudd i bobl sydd eisiau cynnal gwerthusiadau cyfranogol. Bydd hefyd o ddiddordeb i arweinwyr tîm a darparwyr sydd eisiau dysgu am fath gwahanol o werthuso â all ddal stori fwy cyflawn eu gwasanaeth neu dîm a'i gyflawniadau. Sesiwn beilot yw hon ac felly bydd cyfle i’r mynychwyr siapio'r sesiwn ar gyfer mynychwyr y dyfodol.

Gwerthuso cyfranogol
Mae gwerthuso cyfranogol yn cynnwys grŵp o bobl yn dod at ei gilydd i rannu'r dysgu am yr hyn sy'n gweithio'n dda ac nad yw mor dda. Yna mae'r grŵp yn penderfynu beth ddylai digwydd nesaf.

Mae Mapio Effaith Crychdonni yn ddull gwerthuso cyfranogol
Mae Mapio Effaith Crychdonni yn ddull gwerthuso cyfranogol strwythuredig, er y gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer datblygu ymarfer. Mae'n dod â phobl at ei gilydd mewn gweithdy i archwilio pa effeithiau y mae rhaglen neu wasanaeth yn ei gyflawni. Gellir ei ddefnyddio i lywio gwaith yn y dyfodol yn ogystal ag ar ddiwedd rhaglen ar gyfer gwerthuso.

Archebwch eich le