Skip to Main content

Adnoddau Perthnasau Agosaf: Grymuso Gofalwyr yn y System Iechyd Meddwl

Bydd y sesiwn hon yn amlinellu canfyddiadau ymchwil ar brofiadau Perthnasau Agosaf a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ac yn rhannu manylion adnodd ar-lein newydd rhad ac am ddim ar gyfer Perthnasau Agosaf am eu rôl yn y Ddeddf. Gwnaeth yr ymchwil nodi’r heriau emosiynol y mae gofalwyr/aelodau o'r teulu yn eu hwynebu pan mai nhw yw’r Perthynas Agosaf, a'r diffyg gwybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw am y rôl. Arweiniodd yr ymchwil at brosiect a ariannwyd gan UKRI, gan weithio gyda Pherthnasau Agosaf a gweithwyr proffesiynol i gyd-greu gwefan gydag adnoddau ar-lein am y rôl, gan gynnwys offer a thaflenni, yn ogystal â ffynonellau cymorth a hunanofal. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru ar gyfer rôl yr unigolyn a enwebwyd pan ddaw'r Ddeddf Iechyd Meddwl newydd i rym ymhen ychydig flynyddoedd. Byddwn ni’n ystyried y prif newidiadau cyfreithiol yn y maes hwn a sut y bydd yr adnoddau'n cael eu diweddaru i'w hadlewyrchu

Datganiad ar Hygyrchedd

Mae fformat y weminar yn cynnwys cyflwyniad 5 munud gan y cadeirydd, cyflwyniad 40 munud gan gyflwynydd(wyr) a 15 munud o sesiwn gwestiynau ac atebion gan y gynulleidfa. Rhennir pôl effaith fer ar y diwedd./ Gall cyfranogwyr droi capsiynau ymlaen os bydd angen./ Bydd meicroffonau a chamerâu'r cyfranogwyr wedi'u diffodd. Defnyddir y blwch sgwrsio i rannu cwestiynau a sylwadau drwy gydol y sesiwn./ Anfonir copi o'r sleidiau a dolen i'r recordiad at y cyfranogwyr tua wythnos ar ôl y digwyddiad, oni nodir yn wahanol yn ystod y sesiwn./ Os oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad, e-bostiwch: exchange@cardiff.ac.uk

Archebwch eich lle