Skip to Main content

Cymuned ymholi - Arfer adlewyrchol a chydgynhyrchu

Mae 25 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Her cydgynhyrchu

Er bod arfer myfyriol a chydgynhyrchu yn cael eu hyrwyddo’n eang, gall eu gwireddu yn dipyn o her. Rydyn ni i gyd yn gweld y byd yn wahanol a gall dod â phobl â bwriadau da at ei gilydd i siarad olygu bod pawb yn teimlo'n rhwystredig os nad yw'r sgyrsiau'n mynd yn dda.

Cymuned ymholi fel dull o gefnogi cydgynhyrchu

Mae'r gymuned ymholi yn cefnogi pobl i archwilio pwnc mewn ffordd sy'n gynhwysol, ond eto'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi anghytuno myfyriol. Mae'n helpu cyfranogwyr i archwilio thema neu fater ac yn cynhyrchu'r hadau ar gyfer gweithredu.

Y sesiwn hon

Bydd y sesiwn hanner diwrnod hon yn cyflwyno pobl i'r egwyddorion allweddol y tu ôl i'r gymuned ymholi ac yn rhannu sut i sefydlu a hwyluso cymuned. Mae'r sesiwn yn rhyngweithiol iawn, a bydd pobl yn dysgu o fod yn rhan o gymuned ymholi o fewn y sesiwn.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Bydd y sesiwn o fudd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd â diddordeb mewn cydgynhyrchu, adeiladu tîm, ymgynghori ac ymgysylltu. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i hyfforddwyr sydd am helpu dysgwyr o ofal cymdeithasol i ymgysylltu â phynciau a materion. Bydd ymchwilwyr sydd â diddordeb yn dysgu dull defnyddiol i gyd-gynhyrchu cwestiynau ymchwil.

Archebwch eich lle

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk

Os hoffech gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms yn: g.toms@bangor.ac.uk