Arfer adfyfyriol a gwerthuso: Newid mwyaf arwyddocaol
Mae 30 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Pwysigrwydd casglu ac archwilio straeon newid yn ystyrlon
Hyrwyddir gwerthuso sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn enwedig mewn gwasanaethau a rhaglenni sy'n canolbwyntio ar newid a gwelliant. Er enghraifft, mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau gasglu tystiolaeth o ganlyniadau pobl. Gall fod yn heriol casglu canlyniadau newid mewn ffyrdd ystyrlon. Mae straeon pobl yn ffordd bwerus o archwilio a dysgu o ganlyniadau pobl ac mae Newid Mwyaf Arwyddocaol (Davies a Dart, 2005) yn ddull o gasglu ac archwilio canlyniadau newid trwy straeon.
Y sesiwn hon
Mae’r sesiwn hanner diwrnod hon yn cyflwyno hanfodion y dull Newid Mwyaf Arwyddocaol. Bydd yn amlinellu egwyddorion ac arferion casglu straeon Newid Mwyaf Arwyddocaol ac yn manylu ar sut i archwilio a dysgu o’r straeon hyn mewn paneli dewis stori.
Pwy allai elwa o'r sesiwn?
The session will be of interest to people working in social care who support evaluation, especially those working in services, courses or programmes that are focused on change and/ or improvement. The session will particularly benefit people who implement the Social Services Performance and Improvement Framework.
Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.
- Os hoffech chi ddarganfod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk
- Os hoffech gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms yn: g.toms@bangor.ac.uk