
Ymarfer a dysgu myfyriol: Eiliadau hud ac Eiliadau trasig
Mae 30 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Pwysigrwydd casglu ac archwilio straeon profiad
P’un a ydych yn darparu neu’n comisiynu gwasanaethau, mae’n bwysig dysgu o ansawdd profiadau pobl. Mae casglu tystiolaeth o brofiadau pobl yn ofyniad yn Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Er bod modd casglu profiadau trwy arolygon, gall straeon pobl fod yn fwy pwerus mewn gwerthusiad sy’n canolbwyntio ar ddysgu.
Y sesiwn hon
Bydd y sesiwn hanner diwrnod hwn yn cyflwyno pobl i Magic Tragic Moments, dull syml, deniadol a hawdd ei ddeall ar gyfer casglu a dysgu o straeon profiad pobl.
Pwy allai elwa o'r sesiwn?
Mae eiliadau hud a thrasig yn ddull y gellir ei ddefnyddio gan ymarferwyr gofal cymdeithasol, rheolwyr, pobl a gefnogir gan wasanaethau a gofalwyr di-dâl. Bydd o ddiddordeb i bobl mewn rolau datblygu a gwella gwasanaethau ac mae'n arbennig o berthnasol i bobl sy'n gweithredu Fframwaith Perfformiad a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.
Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk
Os hoffech gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms yn: g.toms@bangor.ac.uk