Profiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal maeth a gofal gan berthnasau yng Nghymru
Profiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal maeth a pherthnasau yng Nghymru
Manylion
Bydd y weminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau prosiect tair blynedd yn archwilio anghenion a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal yng Nghymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon mewn tair rhan, gan gynnwys amrywiaeth o ddulliau.
Roedd rhan un yn cynnwys dadansoddi data cysylltiedig gan ddefnyddio Banc Data SAIL i ddeall mwy am nifer y plant sydd wedi cael profiad gofal sy'n derbyn diagnosis o awtistiaeth, oedran y diagnosis a'u canlyniadau addysgol a diagnosisau iechyd meddwl i fod yn oedolion.
Roedd rhan dau yn cynnwys arolwg a ddosbarthwyd i ofalwyr maeth a pherthnasau yng Nghymru, i gasglu gwybodaeth am ddiagnosisau plant mewn gofal, yn ogystal â lefelau nodweddion awtistig, nodweddion anhwylder ymlyniad a chryfderau ac anawsterau eraill.
Roedd y rhan olaf yn cynnwys cyfweliadau ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol a gofalwyr maeth a pherthnasau mewn tri awdurdod lleol yng Nghymru, i ddeall mwy am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r heriau cyfredol, yn benodol o amgylch diagnosis ac anghenion cymorth plant awtistig.
Cyflwynir canfyddiadau o bob adran, ochr yn ochr â gwybodaeth am y camau nesaf a'r gwaith yn y dyfodol i'w wneud.