Rôl iaith mewn ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd: iaith ynghylch seibiannau oddi wrth ofalu
Ymunwch â ni mewn gweminar awr a hanner o hyd, am ddim, ar 10 Mawrth 2026 2.30-4 PM
Mae'r geiriau rydym yn eu dewis yn ystod sgyrsiau cynllunio cefnogaeth yn rhan annatod o ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd. Dyma faes lle gall ymarferwyr arfer eu hymreolaeth. Fodd bynnag, mae un elfen o ymarfer yn aml yn cael ei hanwybyddu.
Rydym yn darparu enghraifft o sut y gall ein dewisiadau geiriau gael effeithiau (cadarnhaol a negyddol) ar bobl. Rydym yn rhannu rhai mewnwelediadau o'n gwaith yn edrych ar yr iaith a ddefnyddir i drafod seibiannau oddi wrth ofalu. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys digwyddiadau ymgysylltu gyda gofalwyr di-dâl, a phobl y mae eu rôl yn ymwneud â'u cefnogi.
Yn y weminar, byddwn yn rhannu'r hyn rydym wedi’i ddysgu gan ofalwyr di-dâl, unigolion sy'n eu cefnogi a'r llenyddiaeth ehangach. Bydd y weminar yn cynnwys cyfleoedd i adfyfyrio ar y canfyddiadau gyda'n gilydd, a thrafod eu goblygiadau o ran ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd.
Os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â g.toms@bangor.ac.uk