Skip to Main content

Adnoddau fideo newydd i helpu adeiladu gwell dealltwriaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru

12 Gorffennaf 2024

Rydyn ni wedi creu dau fideo newydd i egluro a helpu adeiladu gwell dealltwriaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Beth yw’r fideos?

Weithiau gall fod yn anodd egluro’r term ‘gofal cymdeithasol’ gan fod ein sector yn ymwneud â chymaint o wahanol ardaloedd a gweithgareddau.

Dyna pam rydyn ni wedi creu dau fideo byr a syml i helpu egluro beth mae ‘gofal cymdeithasol’ wir yn ei olygu.

Pwy gall ddefnyddio’r fideos?

Gall unrhyw un ddefnyddio’r fideos am ddim. 

Rydyn ni wedi datblygu’r adnoddau newydd i helpu sefydliadau a phartneriaid egluro ehangder a chymhlethdod gofal cymdeithasol, a’r effaith bositif mae’n ei gael ar unigolion a chymdeithas. 

Sut i ddefnyddio’r fideos

Mae’r fideos yn egluro a dangos sut gall gofal cymdeithasol gefnogi pobl o bob oed mewn cymunedau ar draws Cymru. 

Oeddech chi’n gwybod bod dros 75 gwahanol rôl yn bodoli mewn gofal cymdeithasol? Mae’r sector yn cyflogi degau o filoedd o weithwyr proffesiynol, ac mae gan dros un ym mhob 50 yng Nghymru gynllun gofal mewn lle. 

Mae’r fideos yn:

  • amlinellu rhai o’r rhesymau mae pobl yn defnyddio gofal a chymorth
  • egluro sut mae gofal cymdeithasol yn adeiladu perthnasoedd sy’n cefnogi pobl i arwain ar wneud penderfyniadau am eu bywydau
  • egluro’r ystod eang o weithgareddau sy’n cael ei gynnig ledled Cymru
  • egluro’r gefnogaeth mae gofal cymdeithasol yn ei ddarparu mewn cartrefi pobl a’i chymunedau
  • amlygu’r ystod eang ag amrywiol o swyddogaethau sydd gan ofalwyr proffesiynol, a chydnabod rôl hanfodol y gweithlu anffurfiol neu ofalwyr di-dâl.

Oes gennych chi ddigwyddiad, cyfarfod neu gyflwyniad yn y dyddiadur ble rydych chi eisiau cyflwyno gofal cymdeithasol i’ch cynulleidfa? Os felly, mae croeso i chi ddefnyddio ein fideos newydd!

Gallwch chi hefyd rannu’r fideos gyda’ch rhwydweithiau, sefydliadau partner a chymunedau – mae’r rhain yn adnodd gall pawb ei ddefnyddio.

Ble gallwch chi weld y fideos?

Mae'r fideos ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a gallwch eu gwylio yma neu eu cysylltu i'ch gwaith drwy ein sianel YouTube.

Gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl o’r fideos ac os ydych chi’n bwriadu eu defnyddio yn eich gwaith. Cysylltwch â ni ar grwpgwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru.

Cefnogwch ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fideo: Beth yw gofal cymdeithasol?

Fideo: Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?