Adroddiad newydd ar wirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol
Rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n archwilio sut mae gwirfoddolwyr gofal cymdeithasol yn trosglwyddo i waith cyflogedig yn y sector. Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan dîm yn y Ganolfan Effeithiolrwydd Elusennau yn Ysgol Fusnes Bayes a Phrifysgol De Cymru.
Llwybrau gwirfoddoli: canfyddiadau
Mae'r adroddiad newydd hwn yn nodi canfyddiadau astudiaeth ar sut y gall gwirfoddoli fod yn llwybr i waith cyflogedig mewn gofal cymdeithasol.
Gall gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol adeiladu cysylltiadau, ennill profiad a sgiliau. Lle mae gwirfoddoli yn llwybr llwyddiannus i waith cyflogedig, mae arferion a mentrau cefnogol ar waith.
Fodd bynnag, mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod cyfleoedd cyfyngedig i wirfoddoli yn gyffredinol o fewn gofal cymdeithasol rheoledig. Mae hyn yn golygu nad oes llawer o enghreifftiau o ble mae gwirfoddoli yn darparu llwybr i waith cyflogedig yn y lleoliadau hyn.
Yn ôl data Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2024 i 2025, dim ond 89 o wirfoddolwyr a gofnodwyd mewn gweithlu rheoledig o fwy na 70,000.
Mae'r canfyddiadau ymchwil yn ein helpu i ddeall mwy am bethau fel:
- y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn symud rhwng gwirfoddoli a gwaith cyflogedig
- y sgiliau a'r profiad gall gwirfoddoli helpu i adeiladu
- beth all helpu pobl i symud o wirfoddoli i waith cyflogedig mewn ffordd llwyddiannus
- y rhwystrau posibl i wirfoddoli sy'n arwain at waith â thâl.
Cefndir
Mae'r adroddiad presennol yn adeiladu ar astudiaeth ymchwil flaenorol i edrych ar sut mae gwirfoddoli’n cyfrannu at ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ffocws y gwaith ymchwil blaenorol, a gafodd ei hariannu hefyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), oedd gwirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl sy'n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru.
Gallwch chi ddarllen mwy am yr ymchwil honno yma: Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi ddod o hyd i'r adroddiad newydd yma.
Mae mwy o wybodaeth ar wirfoddoli mewn gofal cymdeithasol yma: Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol.