Skip to Main content

Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol

08 Ebrill 2024

Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi astudiaeth ymchwil newydd a gafodd ei gomisiynu gan Ofal Cymdeithasol Cymru i ddeall sut mae gwirfoddoli'n cyfrannu at ofal cymdeithasol. Mae'r ymchwil yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, sydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Bydd yr astudiaeth yn gorffen yn gynnar yn 2025 a byddwn ni'n gweithio gyda Prifysgol De CymruSefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a Chanolfan Effeithiolrwydd Elusennau yn Ysgol Fusnes Bayes.

Gyda'i gilydd, mae’r tri partner yn darparu ystod eang o sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn ymchwil, ymgysylltu ac arweinyddiaeth gwirfoddolwyr.

"Bydd y gwaith hwn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o sut mae gwirfoddoli'n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i fywydau pobl sy'n defnyddio gofal a chymorth. Rydyn ni am dynnu sylw at arfer da mewn cyfranogiad gwirfoddolwyr ond hefyd deall ble mae heriau'n bodoli a’r gwersi sydd i’w dysgu." (Sue Evans, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru)

Rydyn ni’n gwneud y gwaith hwn fel rhan o ymrwymiad sy’n cael ei nodi yn ein strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n galw am well dealltwriaeth o wirfoddoli mewn gofal cymdeithasol.

Trwy'r astudiaeth ymchwil hon, byddwn yn dysgu mwy am y manteision a'r cyfleoedd sy’n cael eu creu trwy wirfoddoli. Gallwn hefyd gael gwell dealltwriaeth o heriau gwirfoddoli a gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn gofal cymdeithasol, yn enwedig mewn lleoliadau gofal preswyl i oedolion yng Nghymru.

Gall canfyddiadau'r ymchwil ddylanwadu ar y math o gefnogaeth sy’n cael ei rhoi ar waith ar gyfer gwirfoddoli. A gallwn ddefnyddio'r hyn a ddysgwn i hyrwyddo a datblygu model cynaliadwy a chadarnhaol sy'n cydnabod arfer da sydd eisoes yn bodoli a chyfraniad gwerthfawr gwirfoddoli o fewn y sector.

Cymerwch ran mewn astudiaeth achos!

Ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr mewn lleoliad gofal preswyl i oedolion yng Nghymru? Byddech chi'n fodlon rhannu eich profiadau gyda ni? Hoffen ni gynnal ymweliad mewn person am ddiwrnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024. 

Rydyn ni'n bwriadu cynnal saith astudiaeth achos ledled Cymru mewn lleoliadau sy'n cefnogi pobl hŷn, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl a phobl gydag anabledd dysgu. 

Rydyn ni eisiau clywed am fuddion gwirfoddoli a dysgu o'r heriau.

Gallwch chi nodi eich diddordeb rhwng 24 Mehefin a 17 Gorffennaf yma.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth hon a sut mae’n datblygu

Arweinydd Gofal Cymdeithasol Cymru ar yr astudiaeth ymchwil hon yw'r Rheolwr Ymchwil Emma Taylor-Collins.