![](https://insightcollective.socialcare.wales/assets/banner-crop-group-of-old-people-laughing.jpeg)
Anogaeth arloesedd: Ceisiadau yn canolbwyntio ar gapasiti, cymuned a chydweithio
Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd newydd wedi bod yn rhedeg ers mis, a gallwn nawr ddweud ychydig mwy wrthych chi am sut mae’n mynd.
Fe wnaethon ni lansio'r gwasanaeth am ddim ym mis Medi i helpu pobl i gael y gorau o'u syniadau i wella gofal.
Denodd ein ffenestr ymgeisio gyntaf 11 o syniadau, pob un â’r potensial i wella bywydau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Rydyn ni hefyd wedi clywed am bobl sydd eisoes yn paratoi ceisiadau ar gyfer ffenestri’r dyfodol.
Mae bron pob un o’r ceisiadau rydyn ni wedi’u derbyn hyd yma yn taro ar un neu fwy o dair thema fawr: capasiti, cymuned a chydweithio.
Capasiti
Roedd capasiti a recriwtio yn themâu roedden ni'n eu disgwyl. Nhw hefyd yw ffocws ein ffenestr ymgeisio nesaf, ochr yn ochr â chadw.
Cysylltodd dau gyngor â ni amdano heriau yn ymwneud â recriwtio a chadw. Mae un yn gweld gwasanaeth gofal plant hirsefydlog yn wynebu anawsterau oherwydd problemau recriwtio staff. Mae gan un arall gynlluniau i gynyddu cyfraddau cadw mewn arbenigedd gwaith cymdeithasol arbennig o anodd trwy gymysgedd o hyfforddiant a mentora, ac mae eisiau cymorth i'w rhoi ar waith.
Cawson ni gais hefyd gan fenter gymdeithasol sydd am fynd i’r afael â’r diffyg pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio mewn rolau uwch yng ngofal cymdeithasol.
Cymuned
Roedd llawer o'n hymgeiswyr yn gweld aelodau o'r cyhoedd fel adnodd pwysig wrth gefnogi ein system ofal, ac roedden nhw am ddod o hyd i ffyrdd newydd o fanteisio ar hynny.
Mae un cyngor eisiau ein help i leihau unigedd a chefnogi iechyd a llesiant trwy annog mentrau cymunedol, gan gynnwys sefydlu caffi cymunedol mewn canolfan ddydd lleol.
Mae cyngor arall eisiau gweithio gyda'i dîm comisiynu i hybu nifer y lleoliadau yn y gymuned ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Cynllun peilot llwyddiannus o ymgyrch recriwtio cynorthwywyr personol sy’n canolbwyntio ar y gymuned yw ffocws cais arall. Mae'r cyngor hwn am weld y dull yn cael ei ddefnyddio'n ehangach.
Cydweithio
Daeth cynghorau cyfagos, y trydydd sector a darparwyr preifat i gyd i'r amlwg fel sefydliadau roedd ymgeiswyr eisiau perthynas newydd a chryfach â nhw.
Mae awdurdod lleol sydd â hyb cymunedol llwyddiannus am wneud mwy o waith gyda'r sectorau cymunedol a gwirfoddol. Mae am ddod â gwahanol wasanaethau ynghyd mewn lleoliad penodol a chreu 'drws ffrynt' newydd i wasanaethau oedolion.
Mae dau gyngor am ddatblygu cydweithrediad o amgylch eu harlwy ym maes blynyddoedd cynnar plant, tra bod gweithio gyda microfentrau gofal ac annog mwy ohonyn nhw yn ffocws cais cyngor arall.
Camau nesaf
Ein cam nesaf yw estyn allan at arbenigwyr mewnol Gofal Cymdeithasol Cymru yn y meysydd gwaith mae ein hymgeiswyr wedi canolbwyntio arno.
Yna byddwn ni'n gweithio gyda'n hymgeiswyr i gwblhau proses asesu a siarad â nhw am eu hanghenion a'r hyn maen nhw'n gobeithio ei gyflawni trwy anogaeth.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein cynnig anogaeth, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn siarad â phobl gyda syniadau i wella eu harfer a allai gael eu cefnogi gan anogaeth. Os yw hynny'n swnio fel chi, anfonwch e-bost at anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.