Richard Davies
Rheolwr Strategol, Cyngor Abertawe
Fe wnaethon ni lansio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd ym mis Medi 2023 i gefnogi pobl i wneud newid cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol.
Ers hynny, mae ein anogwyr wedi bod yn gweithio gydag unigolion a thimau ledled Cymru i roi eu syniadau ar waith.
Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd dal ar agor ar gyfer ceisiadau. Os hoffech chi gael cefnogaeth gan ein anogwyr, gallwch roi gwybod i ni am eich prosiect trwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Yma, mae Richard Davies, Rheolwr Strategol ar dîm cymorth taliadau uniongyrchol Cyngor Abertawe, yn disgrifio sut mae ein gwasanaeth anogaeth wedi cefnogi'r tîm i ailgynllunio eu gwefan, ffurflenni cais a phrosesau mewnol.
Roedd y cynnig yn ymddangos yn ddiniwed - byddwn ni'n treulio amser yn eich cefnogi, mae am ddim. Beth oedd yna i'w golli?
Felly, gwnes i gais, ac ychydig wythnosau’n ddiweddarach roeddwn i wrth fy modd o glywed ein bod yn mynd i dderbyn anogaeth.
Wrth gwrs, achosodd hyn ychydig o banig - beth oedd yr anogaeth hon mewn gwirionedd? Oedden ni'n mynd i allu ei wneud? Oedden ni'n barod amdani? A oedd yn mynd i fod yn werth chweil? Sut gallwn i gasglu'r holl aelodau staff sydd eu hangen mewn un lle ar yr un pryd?
Yna, ar ddiwrnod llwyd ym mis Chwefror 2024, fe wnaethon ni i gyd gyfarfod ar-lein a dechreuodd ein taith.
Cyflwynodd Rob, ein hanogwr, ei hun. Ar y dechrau, tybed a sylweddolodd beth oedd ar y gweill gyda'n tîm ni. Er mor wych yw fy nhîm, mae eu hangerdd yn byrlymu. O fewn munudau roedd y sbarc yn cynnau, a dechreuodd y syniadau lifo.
I Rob mae'n rhaid ei fod wedi ymddangos fel ymosodiad! Cymysgedd gwallgof o frwdfrydedd, rhwystredigaethau system, annifyrrwch proses ac amrywiaeth o syniadau anarferol. Nododd Rob bopeth i lawr mewn modd cŵl, bwriadol, wrth ein cyflwyno i hud y bwrdd gwyn ar-lein – am ddatguddiad!
Fel tîm hynod o brysur, dydyn ni ddim yn aml yn cael yr amser i eistedd gyda'n gilydd i ddad-ddewis ac archwilio syniadau, felly sylweddolais ar unwaith werth y broses newydd hon.
Creodd Rob fan diogel i ni fel tîm gyfrannu’n weithredol at y drafodaeth, ac roedd yn annog cyfranogiad yn agored. Roedd yn brofiad ysbrydoledig i fod yn rhan o sgyrsiau llawn egni, ac mae bob amser yn wych gwylio fy nhîm yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd fel hyn.
Llywiodd Rob y sgyrsiau yn fedrus a nododd wybodaeth berthnasol a phwysig, a helpodd i lywio trafodaethau pellach wrth i’r sesiynau fynd yn eu blaenau.
Roedd peth o’r gwaith a wnaeth i ffwrdd o’r grŵp hefyd yn amhrisiadwy, fel yr adborth a gasglodd am brofiad pobl o ymweld â’n gwefan.
Rhoddodd y farn honno o rywun yn ceisio llywio trwy gais cynorthwyydd personol ar-lein bersbectif newydd i ni. Trwy'r lens newydd hon aethon ni ati i archwilio ailgynllunio.
Mae cael lle i drafod, a chael y sgyrsiau hynny wedi’u hwyluso a’u rheoli, wedi bod yn hynod werthfawr. I mi, mae’n sicr wedi tynnu sylw at ddefnyddioldeb y math hwn o broses a’r enillion sydd ar gael. Mae hefyd yn broses gallwn ni ei hadlewyrchu mewn cyfarfodydd tîm a darnau o waith ailgynllunio yn y dyfodol.
Rydw i wedi cael profiad blaenorol o ‘setiau dysgu gweithredol’. Er bod hyn yn wahanol, roedd y broses hon yn ymddangos yn debyg mewn sawl ffordd.
Mae'r gallu i ddad-ddysgu yr un mor bwysig â'r gallu i ddysgu. Ac mae dysgu mewn lle diogel, tra'n cael ei lywio'n ysgafn, yn eithaf rhyddhaol.
Mae ymddiriedaeth yn y broses yn beth mawr i mi. Ar y dechrau roedd temtasiwn i fod yn ddiamynedd, chwilio am atebion a chynllun gweithredu diffiniol ar unwaith, oherwydd ei fod yn brofiad newydd ac ychydig yn ddieithr. Ond er mor anodd oedd gadael i fynd, roedd y profiad yn bendant yn werth chweil.
Heb ddymuno swnio'n rhy 'corny', rwy'n meddwl ein bod ni wedi creu rhywbeth hardd - gofod dysgu ac archwilio wedi'i ddiogelu lle'r oedd syniadau'n llifo'n ddi-dor. Fe wnaethon ni sefydlu pwrpas cyffredin a oedd o fudd i'r prosiect hwn ond hefyd aeth ag undod a chyfeillgarwch y tîm i lefel arall.
A fyddwn i'n argymell anogaeth i eraill? Yn bendant! Byddwch yn ddewr, plymiwch i mewn a gwnewch y gorau ohono. Ymddiriedwch yn y broses a daw'r canlyniadau.
O ganlyniad uniongyrchol i’r anogaeth hon, rydyn ni wedi ailgynllunio ein gwefan, ein ffurflenni cais a’n prosesau mewnol. Mae staff hefyd yn gliriach ar eu rolau a'u cyfrifoldebau unigol. Yn fwyaf arwyddocaol o bosibl, mae wedi ein helpu i ddeall ein gilydd yn well, gwerthfawrogi ein hanawsterau unigol, a dod yn fwy cydgysylltiedig.
Mae'n deg dweud bod yr heriau o weithio ym maes gofal cymdeithasol yn sylweddol, ac mae rhwystrau i lwyddiant ar bob tro. Ond mae amser, ymdrech a magwraeth fel anogaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y cyfeiriad rydyn ni'n cymryd fel gwasanaeth. Yn ei dro, mae hyn yn adeiladu i ddarparu gwasanaeth gwell i'r bobl rydyn ni yma i'w cefnogi.
Gallwch roi gwybod i ni am eich prosiect drwy lenwi ein ffurflen ar-lein, neu cysylltwch â anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod mwy.
Rheolwr Strategol, Cyngor Abertawe