Yn 2024, gwnaethom gyhoeddi crynodeb tystiolaeth cefnogi pobl niwrowahanol a’u teuluoedd. Mae'r model cymdeithasol o anabledd a theori niwroamrywiaeth yn sail iddo. Mae'n rhoi canllawiau i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar sut i ddarparu cymorth sy'n seiliedig ar gryfderau i bobl niwrowahanol.
Fe wnaethom bwysleisio bod llawer o bobl niwrowahanol yn cael trafferth, nid oherwydd bod rhywbeth o'i le gyda nhw, ond oherwydd nad yw'r byd o'u cwmpas yn hygyrch iddynt. Mae'r crynodeb yn disgrifio'r paradeim niwroamrywiaeth ac yn ei ddefnyddio i awgrymu sut y gallwn leihau rhwystrau a theilwra cymorth wrth weithio gyda phobl niwrowahanol.
Yn y blog hwn, rwy'n canolbwyntio ar dair damcaniaeth niwroamrywiaeth. Yr hyn sy'n gyffredin i'r tri yw deall y gall y byd fod yn niweidiol i bobl niwrowahanol. Mae'r damcaniaethau'n cynnig cysyniadau ac iaith sy'n amharu ar ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n 'normal' ac yn archwilio sut y gallwn ni helpu pobl niwrowahanol sy'n cael mynediad at ofal a chymorth i ffynnu.
Diwylliannau cadarnhaol
Yn ddiweddar, mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar gefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol. Egwyddor gyntaf diwylliant cadarnhaol yw amddiffyn, hyrwyddo a chefnogi hawliau pobl. Mae hyn yn cynnwys cydnabod a deall beth sy'n bwysicaf i bobl a pharchu eu syniadau o'r hyn sy'n gwneud bywyd da.
Yn ein crynodeb tystiolaeth ar gefnogi pobl niwrowahanol a'u teuluoedd, rydyn ni'n archwilio sut y gall gweithwyr gofal cymdeithasol ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau i ddarparu cymorth effeithiol heb wadu'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Gan hefyd alluogi nhw i fyw bywyd da yn ôl yr hyn y mae hynny'n ei olygu iddynt.
Niwroamrywiaeth a normalrwydd
Mae un agwedd ar theori niwroamrywiaeth yn edrych ar y ffordd y mae bywyd bob dydd, a'r gweithle yn benodol, yn anablu pobl. Mae'r ymchwilydd Robert Chapman yn Empire of Normality yn ysgrifennu am sut mae niwrowahanrwydd yn adeiladwaith cymdeithasol ac yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl.
Mae Chapman yn olrhain y syniad o normalrwydd ac abnormaledd trwy hanes. Maen nhw'n dadlau bod normau cymdeithasol, yn enwedig y syniad o fod yn gynhyrchiol yn y gweithle, wedi culhau ein syniad o'r hyn sy'n cyfrif fel 'normal' neu niwronodweddiadol. Mae hyn yn golygu bod mwy a mwy o bobl, sydd mewn amgylchiadau eraill efallai ddim yn anabl, yn dod felly oherwydd bod yr amgylchedd o'u cwmpas mor gyfyngedig.
Mae Chapman yn dadlau, er mwyn sicrhau nad yw pobl niwrowahanol yn cael eu hanableddu gan gymdeithas, mae angen mwy na chonsesiynau penodol arnynt. Yn ôl Chapman, mae angen i bobl niwrowahanol eirioli a threfnu i newid y byd mewn termau llawer ehangach i atal pobl rhag bod yn anabl. Maen nhw'n cysylltu rhyddhad niwrowahanrwydd â beirniadaeth o gyfalafiaeth ac yn pwyso am newid cymdeithasol ehangach - i ddileu systemau gweithle, sy'n anablu pobl drwy ddiffiniadau cul o'r hyn sy'n normal.
Niwroamrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol
Mae rhai ymchwilwyr ac ymgyrchwyr wedi dadlau bod yn rhaid i ni ddeall niwroamrywiaeth o fewn fframwaith croestorriadedd. Mae croestorriadedd yn cyfeirio at sut y gall hunaniaethau neu nodweddion lluosog person, megis hil, rhyw, dosbarth a rhywioldeb, ryngweithio. Er enghraifft, gallai pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gael eu barnu'n llymach na phobl wyn am ymddygiad sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwrowahanol. Er enghraifft, mae'r Comisiwn Ansawdd Gofal wedi mynegi pryderon bod pobl ifanc Ddu a Du Prydeinig mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) ac ar wardiau anabledd dysgu wedi cael cyfraddau llawer uwch o ynysu hir mewn lleoliadau na'u cyfoedion gwyn.
Mae Ly Xīnzhèn Zhǎngsūn Brown yn actifydd a damcaniaethwr amlwg sy'n edrych ar bethau o ongl cyfiawnder hiliol a chroestoriadol. Mae Brown yn ysgrifennu am y ffordd y mae gwahanol fathau o ormes ac anfantais yn croestorri ym mywydau pobl a'i bod yn bwysig mynd i'r afael â nhw ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu edrych ar sut mae pobl niwroamrywiol â nodweddion eraill yn cael eu heffeithio'n wahanol.
Gall canolbwyntio ar bobl sy'n wynebu anghydraddoldebau lluosog ein helpu i wella pethau i bawb. Mae'r pwyslais yma ar bwysigrwydd gweld niwroamrywiaeth yng nghyd-destun mudiadau cyfiawnder ehangach. Heb y cyd-destun hwnnw, gallai ymdrechion i fod yn gynhwysol gwneud pethau'n well dim ond i bobl sydd eisoes wedi cael mwy o gyfleoedd a chefnogaeth yn eu bywydau.
Niwroamrywiaeth a hawliau LHDTC+
Ffordd arall y mae damcaniaethwyr niwroamrywiaeth yn herio 'normalrwydd' yw trwy'r syniad o niwrochwiar. Mae Nick Walker, a gyd-ddatblygodd y cysyniad, yn gwneud cysylltiadau rhwng bod yn LHDTC+ ac yn niwrowahanol. Mae hyn yn bwysig o fewn theori niwrochwiar nid yn unig oherwydd bod llawer o bobl niwrowahanol hefyd yn LHDTC+, ond oherwydd bod y damcaniaethwyr hyn yn credu mewn cwestiynu'r normau sy'n culhau beth sy'n dderbyniol o ran sut rydym yn gweithredu yn y byd. Maen nhw'n dadlau bod syniadau heteronormadedd a cisnormadedd am gymdeithas yn golygu bod pobl yn tueddu i weld bod yn heterorywiol a cis-rhyw fel y norm. Yn yr un modd, mae pobl niwrowahanol yn wynebu gormes oherwydd mai dim ond rhai mathau o niwroteipiau sy'n cael eu derbyn.
Gall theori niwrochwiar ein helpu i feddwl am sut gall syniadau o normalrwydd fod yn rhwystr rhag derbyn gofal da i bawb. Mae Walker yn defnyddio'r diffiniad niwrochwiar i siarad am ymdrechion gweithredol i newid yr amgylchedd mewn ffordd sy'n caniatáu i ni gyd werthfawrogi gwahaniaethau.
Darparu gwell gofal cymdeithasol i bawb
Mewn gofal cymdeithasol, gallwn ddefnyddio'r damcaniaethau hyn i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r heriau y mae pobl niwrowahanol yn eu hwynebu a sut mae gwahanol fathau o anghydraddoldebau a gormes yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd.
Mae pob un o'r dulliau hyn yn gweld theori niwroamrywiaeth ac actifiaeth fel rhywbeth sydd nid yn unig yn effeithio ar unigolion, ond gall ein helpu i wella cymdeithas.
Mae'r paradeim niwroamrywiaeth yn ein helpu i ddeall sut mae pobl niwrowahanol yn anabl nid trwy fod unrhyw beth o'i le gyda nhw, ond gan nad yw'r byd yn hygyrch iddynt.
Mae'r damcaniaethau yn y blog hwn yn caniatáu inni archwilio pam mae pethau fel y maen nhw a sut y gallwn ni ddarparu gofal a chymorth mewn ffordd sy'n helpu pawb.