Skip to Main content

Beth nesaf ar gyfer Porth Data Gofal Cymdeithasol Cymru?

27 Mehefin 2023

Rydyn ni wedi datblygu Porth Data Gofal Cymdeithasol Cymru i roi mynediad gwell i chi at ffigurau am ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ei nod yw bod yn adnodd pwysig i unrhyw un sydd am ddeall yn well beth sy'n digwydd yn y sector.

Ac mae gennym ni lawer o gynlluniau ar gyfer sut rydyn ni'n mynd i'w wella a'i ehangu.

Beth yw'r porth data?

Mae’r porthol yn 'siop un stop' ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Er enghraifft, mae hynny’n cynnwys data ar blant sy’n defnyddio gofal a chymorth, oedolion sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, a chostau darparu gwasanaethau.

Mae'r porth hefyd yn cynnwys data am bethau a allai effeithio ar alw ac angen, fel iechyd, amddifadedd, a ffigurau poblogaeth.

Rydyn ni’n cael y data o amrywiaeth o ffynonellau. Mae llawer o’r data ar ofal cymdeithasol yn dod o gasgliadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth. Daw data arall gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac awdurdodau lleol.

Ble ydyn ni nawr?

Mae Porth Data Gofal Cymdeithasol Cymru yn disodli dau borth blaenorol - Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru a Llwyfan Amcanestyniadau Poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru (a elwir hefyd yn Daffodil). Rydyn ni wedi ychwanegu'r data o'r platfformau hyn at y porth newydd, fel bod defnyddwyr y gwefannau blaenorol hynny'n dal i allu cael mynediad iddo. 

Mae'r data yn y porth wedi'i drefnu o amgylch themâu, fel plant a phobl ifanc neu oedolion. 

Ein nod yw gwneud data perthnasol yn hawdd i'w ddarganfod trwy chwilio neu bori. Mae yna opsiwn hefyd i fynd yn syth at ddata rhagamcanion os mai dyna rydych chi'n edrych amdano. 

Mae gan eitemau data unigol, neu ‘ddangosyddion’, eu tudalen eu hunain, fel nifer yr oedolion sy’n cael asesiadau ar gyfer gofal a chymorth. 

Pan edrychwch chi ar ddangosydd, mae yna wybodaeth ychwanegol i roi mewnwelediad i'r data. Ar gyfer y rhan fwyaf, gallwch chi weld y data wedi'i ddadansoddi fesul awdurdod lleol. 

Mae yna hefyd ddelweddau fel mapiau, graffiau llinell a siartiau colofn. Gallwch newid yr hyn sy'n cael ei arddangos ar y delweddau trwy amrywio'r cyfnod amser neu'r ardaloedd sydd wedi'u cynnwys. Gallwch hefyd lawrlwytho'r data o'r rhain. 

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Dim ond y cam cyntaf yw'r porth presennol. Mae gennym ni gynlluniau i’w wella a’i ehangu i’w wneud yn adnodd mwy defnyddiol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Data wedi'i ddiweddaru 

Y peth cyntaf rydyn ni'n ei wneud yw diweddaru'r data ar y porth. 

Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o'r data yn hen neu ar goll. Rydyn ni’n gweithio i ychwanegu ffigurau newydd a rhai wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru, gyda setiau data eraill i ddilyn. 

Mae hynny'n golygu y byddwch chi’n gallu cael mynediad at yr holl ddata o'r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd, yn ogystal â fersiynau wedi'u diweddaru o'r dangosyddion sydd eisoes ar y wefan. 

Fel rhan o hyn, rydyn ni’n bwriadu ychwanegu data sy’n cael ei ddadansoddi fesul bwrdd iechyd lleol yn ogystal ag awdurdod lleol. 

Er mwyn helpu i wneud y data’n haws i’w ddeall, rydyn ni’n sicrhau bod gan bob dangosydd esboniad clir o beth yw e a sut y cafodd ei gasglu. 

Rydyn ni hefyd yn ychwanegu data newydd o’n cronfa ddata cofrestriadau. Mae hynny'n golygu y byddwch chi'n gallu archwilio faint o bobl sydd yn y gweithlu cofrestredig a'r mathau o swyddi maen nhw'n eu gwneud. 

Delweddau 

Mae data ar y porth ar gael ar hyn o bryd fel dangosyddion unigol, ond rydyn ni’n bwriadu ei gwneud yn haws gweld grwpiau o ddangosyddion. Er enghraifft, yn y dyfodol fe allech chi o bosibl archwilio graffiau sy'n dangos dadansoddiad yn ôl oedran neu ryw mewn un lle. Mae hyn yn rhywbeth mae defnyddwyr wedi gofyn amdano. 

Byddwn ni hefyd yn gwneud y delweddau ar gyfer dangosyddion sengl yn gliriach ac yn fwy defnyddiol. 

Mae ein cynlluniau eraill yn cynnwys ychwanegu'r opsiwn i ddefnyddio delweddu fel graffiau gwasgariad i ddadansoddi'r berthynas rhwng gwahanol ddangosyddion. 

Egluro’r data 

Byddwn ni’n cynhyrchu mwy o fewnwelediadau i'r data i helpu pobl i'w ddeall a'i ddefnyddio'n well. 

Un ffordd byddwn ni’n gwneud hyn yw trwy erthyglau. Bydd y rhain yn tynnu sylw at dueddiadau mewn setiau data, yn rhoi mwy o gyd-destun iddyn nhw, neu'n gwneud cysylltiadau rhwng y data a'r ymchwil. Byddwch chi’n gallu dod o hyd i rhain trwy'r porth a byddan nhw’n cael eu rhannu i'r un categorïau â'r data perthnasol, gan eu gwneud yn haws i'w harchwilio. 

Rydyn ni hefyd yn gweithio ar fodelau data. Mae’r rhain yn cymryd data sydd ar gael ac yn ei ddefnyddio i ragweld tueddiadau'r dyfodol neu i edrych ar effaith bosibl gwahanol bolisïau. Yr un cyntaf rydyn ni’n gweithio arno yw’r hyn a allai effeithio ar niferoedd y plant sy’n derbyn gofal yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio rhannu hyn drwy'r porth yn y dyfodol. 

Os oes gennych unrhyw feddyliau, adborth, neu gwestiynau am y porth data, anfonwch e-bost at data@gofalcymdeithasol.cymru