Skip to Main content

Beth yw anogaeth arloesedd? Ymunwch â'n rhaglen hyfforddi newydd

14 Mai 2024
Angharad Dalton

Ydych chi wedi ystyried ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, ond ddim yn siŵr beth yw e? Ymunwch â'n hyfforddiant anogaeth arloesedd i adeiladu eich hyder mewn defnyddio offer anogaeth arloesedd.

Fe wnaethon ni lansio ein gwasanaeth anogaeth arloesedd ym mis Medi 2023. Ers hynny, mae ein anogwyr arloesedd wedi bod yn cefnogi unigolion a thimau i wneud newidiadau cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Mae anogaeth arloesedd yn defnyddio offer arloesi a dull anogaeth i wella gofal cymdeithasol a helpu unigolion i ddatblygu trwy eu cefnogi i nodi amcanion a rhoi cynnig ar syniadau newydd.

Rydyn ni’n cynnig hyd at 12 awr o gymorth wedi’i deilwra am ddim i unigolion neu dimau.

Ers mis Medi, rydyn ni wedi bod yn cefnogi ystod eang o arloesiadau, gan gynnwys gwaith i:

  • integreiddio llwybrau iechyd a gofal
  • ailgyflunio gwasanaethau oedolion mewn awdurdod lleol
  • rhoi modelau ymarfer newydd ar waith mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol plant ac anableddau dysgu
  • gwella systemau ar gyfer pobl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol.

Mae ein gwaith yn defnyddio dull anogaeth i fynd i'r afael ag anghenion a heriau'r sector.

Ers ei lansio, rydyn ni wedi canolbwyntio ar weithio’n hyblyg i gael dealltwriaeth o’r ffordd orau o becynnu a chynnig ein cymorth, er mwyn galluogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i wneud y defnydd gorau ohono.

Rydyn ni wedi dysgu llawer am sut rydyn ni'n recriwtio i'r gwasanaeth ac yn gweithio gyda chleientiaid, ac rydyn ni wedi arbrofi gyda sut rydyn ni'n darparu'r hyfforddiant.

Bydd profi'r gwahanol ddulliau hyn yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion y sector yn effeithiol, nawr ac yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol gan bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth, ond roedden ni am ddod o hyd i ffyrdd newydd o’i esbonio a dangos beth y gall ei wneud i’r sector.

Bydd ein hyfforddiant anogaeth arloesedd newydd yn dangos i chi sut i ddefnyddio'r offer a'r technegau rydyn ni'n eu defnyddio yn ein sesiynau anogaeth.

Mae'r hyfforddiant wedi'i rannu'n bedair rhan.

Bydd rhannau un a dau yn canolbwyntio ar anogaeth ac yn yn:

  • eich helpu i ddeall manteision a defnyddiau offer anogaeth yn well
  • eich cyflwyno i ystod o offer anogaeth y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith
  • eich helpu i ddeall sut i ddatblygu perthnasoedd anogaeth da
  • darparu cyfleoedd i ymarfer defnyddio offer i annog eraill.

Bydd rhannau tri a phedwar yn canolbwyntio ar arloesi ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio offer arloesi i:

  • eich helpu i gael persbectif newydd ar yr heriau cymhleth sy'n eich wynebu
  • rhoi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau wrth wraidd gwelliannau i wasanaethau
  • meddwl am ffyrdd newydd o ddatrys problemau
  • rhoi cynnig ar syniadau mewn ffyrdd cost isel a risg isel.

Bydd yr hyfforddiant yn eich galluogi i gael rhagflas o'r hyn y gall anogaeth arloesedd ei gynnig, yn ogystal â chyfle i fynd â'r offer i ffwrdd i roi cynnig arnynt eich hun.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein hyfforddiant anogaeth arloesedd yn helpu i ledaenu’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o arferion arloesi ac anogaeth defnyddiol, gan hybu’r arloesedd rydyn ni'n gwybod sy’n digwydd yn naturiol yn y sector.

Os ydych chi wedi darllen hyd yma, bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld yn ein hyfforddiant.

Mae’n agored i unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer:

  • pobl â chyfrifoldeb am wella gwasanaethau gofal
  • pobl sydd â diddordeb yn y cynnig anogaeth arloesedd presennol ond sydd eisiau gwybod mwy amdano
  • pobl sydd wedi cymryd rhan mewn anogaeth arloesedd ac sydd eisiau gwthio eu sgiliau ymhellach.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n eich gwahodd i archebu lle ar gyfer ein cyrsiau ym mis Mehefin a mis Medi.

Archebwch eich lle

Ewch i'n tudalen Eventbrite i archebu eich lle ar yr hyfforddiant, neu darganfyddwch fwy yma.

Blog wedi'i ysgrifennu gan:

Angharad Dalton

Angharad Dalton

Rheolwr Anogaeth Arloesedd

anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru
Rwy’n gofalu am ein gwasanaeth anogaeth arloesedd a thîm anogaeth newydd. Rydyn ni'n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sy'n ceisio gwella'r ffordd y maen nhw'n darparu gofal trwy eu helpu i brofi syniadau newydd, datblygu ffyrdd newydd o weithio neu addasu'r hyn sy'n gweithio mewn mannau eraill. Mae fy nghefndir yn amrywiol, ond mae'r llinyn aur sy'n rhedeg trwy fy ngyrfa yn canolbwyntio ar wneud bywyd yn well i bobl. Rwy’n is-gadeirydd Cwmpas, a chyn hynny gweithiais fel rheolwr rhaglen i Nesta yn cefnogi arloesedd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi datblygu polisi iechyd ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, a gwaith allgymorth ledled Cymru ar gynhwysiant digidol sy’n canolbwyntio ar stori. Roeddwn yn rhan o’r tîm sefydlu y tu ôl i Ysgol Fasnach Caerdydd, ac yn rhan o Think ARK – cydweithfa dylunio cymdeithasol.