Skip to Main content

Beth yw Gofal Cymdeithasol? Gadewch i ni ddangos i chi.

19 Hydref 2026

Rydyn ni wedi lansio fideo newydd i helpu pobl i ddeall beth yw gofal cymdeithasol a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i fywydau pobl. Ond yn fwy na hynny, mae'n taflu goleuni ar y bobl sy'n gwneud gofal cymdeithasol yn arbennig a'r cymunedau maen nhw'n eu cefnogi ledled Cymru. 

Pobl go iawn. Straeon go iawn.

Mae ein fideo yn dangos straeon a phrofiadau go iawn bobl sy’n cael gofal a chymorth ynghyd â’r bobl sy’n gweithio yn y sector. Mae’n dangos y gwahaniaeth cadarnhaol mae gofal cymdeithasol yn ei wneud yng nghartrefi a chymunedau pobl, ac yn tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o rolau sydd o fewn y proffesiwn. 

Mae rhai o'r bobl sy'n ymddangos yn y fideo wedi cael eu henwebu, neu eu cydnabod, trwy wobrau sy'n dathlu'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i ofal cymdeithasol. Mae eu straeon yn dod â gofal cymdeithasol yn fyw ac yn tynnu sylw at y bobl sydd wrth galon y sector. 

Mae un person ifanc sy'n ymddangos yn y fideo yn esbonio beth fyddai gweithiwr cymdeithasol iddo fo. Mae ei eiriau'n syml on yn bwerus:  

"Helpu fi i fyw bywyd normal". 

Yn barod i ddysgu mwy?

Mae gofal cymdeithasol yn cynnwys mwy na 75 o wahanol rolau, pob un yn chwarae rhan wrth gefnogi pobl i fyw'r bywydau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'r fideo  yn helpu i ddathlu ac esbonio beth mae gofal cymdeithasol yn ei olygu i gymunedau lleol, trwy roi cipolwg ar fywydau pobl sy'n gweithio yn y maes a'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth. 

Felly, beth yw gofal cymdeithasol? Gwyliwch y fideo i gael gwybod mwy. 

https://youtu.be/P6UJmrv8gWk?si=I2lGoC5_AYiR-Lvi  

Helpwch i ledaenu'r gair

Mae'r fideo yma am ddim, ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gall unrhyw un ei ddefnyddio. 

Os ydych chi'n ychwanegu cynnwys at eich gwefan, rhannu cylchlythyr, rhoi cyflwyniad neu siarad â'ch cymunedau, mae croeso i chi ddefnyddio'r fideo i helpu godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae trawsgrifiad o'r fideo hefyd ar gael yma, a gallwch ei rannu gyda'ch rhwydweithiau, sefydliadau partner a'ch cymunedau. 

Mwy o adnoddau

Gallwch hefyd wylio ein fideo "Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?", sy'n dangos sut mae gofal cymdeithasol yn cefnogi pobl ledled y wlad. 

Adnabod rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth?

Ydych chi'n adnabod unigolyn, tîm neu brosiect sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae neu'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru?  

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2027 bellach ar agor.

Mae'r Gwobrau yn dathlu arfer rhagorol, arloesedd ac effaith ar draws y sector, gan dynnu sylw at y bobl a'r sefydliadau sy'n mynd yr ail filltir bob dydd. 

Darganfyddwch fwy ac enwebwch cyn 6 Tachwedd drwy glicio yma.