Skip to Main content

Beth yw ‘gwyddor data’ a sut mae’n gallu helpu gyda'n gwaith?

11 Ionawr 2024

Ysgrifennwyd gan Walid Chehtane, Uwch ddadansoddwr data, Gofal Cymdeithasol Cymru.

Beth yw gwyddor data?

Yn y blog hwn, byddwn ni’n archwilio ystyr y term ‘gwyddor data’ a sut mae’n gallu effeithio ar waith Gofal Cymdeithasol Cymru.


Yn y byd sydd ohoni, data yw un o’r grymoedd y tu ôl i arloesi a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn sawl maes, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae gwyddor data yn cyfuno ystadegau a chyfrifiadureg i ddarparu mewnwelediad a'n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’n faes eang sy’n defnyddio gwahanol offer, technegau ac algorithmau i ddarganfod ystyr mewn data cymhleth. 

Mae data'n cael ei gasglu a'i baratoi cyn ei ddadansoddi i ddod o hyd i dueddiadau a phatrymau. Rydyn ni hefyd yn gallu defnyddio technegau fel dysgu peirianyddol i adeiladu modelau sy’n gallu rhagweld digwyddiadau neu ganlyniadau’r dyfodol, a helpu gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata. 

Mae dysgu peirianyddol yn defnyddio algorithmau a data i hyfforddi peiriant i wneud penderfyniadau call, heb fod angen rhaglennu penodol.

Gall sefydliadau ddefnyddio gwyddor data i:

  • helpu i wella eu gwasanaethau a'u cynhyrchion
  • gwneud eu prosesau'n fwy effeithlon
  • darganfod mewnwelediadau newydd sy'n gwella profiad eu cwsmeriaid.

Sut gallwn ni ddefnyddio gwyddor data yng Ngofal Cymdeithasol Cymru?

Mae gwyddor data yn ein helpu ni i ddadansoddi a defnyddio data yn fwy effeithiol. Gallwn ni ddefnyddio’r data rydyn ni’n casglu i wella ein gwaith trwy bethau fel:

  • gwneud penderfyniadau gwybodus - mae gwyddor data yn rhoi offer i ni drin setiau data mawr gan ddarparwyr gofal cymdeithasol yn fwy effeithlon. Gall defnyddio gwyddonwyr data i brosesu a dadansoddi data hefyd ei gwneud yn haws i ni wneud penderfyniadau gwybodus a gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau.
  • cynllunio rhagweithiol a rheoli risg - gallwn ni ddefnyddio gwyddor data i ymateb mewn ffordd blaengar wrth reoli risgiau, trwy ddefnyddio dadansoddeg ragfynegol i ragweld tueddiadau’r dyfodol, neu i wneud yn siŵr bod problemau posibl yn cael eu nodi’n gynnar.
  • awtomeiddio ac effeithlonrwydd - gall gwyddonwyr data awtomeiddio tasgau a phrosesau sy’n ailadrodd er mwyn rhyddhau amser i ganolbwyntio ar dasgau eraill sy’n fwy gwerthfawr. Mae hyn yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn gwella cywirdeb a chysondeb.
  • gwella parhaus - rydyn ni’n gallu defnyddio gwyddor data i ysgogi gwelliant parhaus yn y sector drwy werthusiadau rheolaidd a dadansoddi data perfformiad. Bydd hyn yn nodi meysydd posibl i’w gwella ac yn helpu ni i ddatblygu ein strategaethau.

Mewn byd sy’n newid yn gyflym, gall gwyddor data helpu ni i sicrhau ein bod ni’n cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Bydd symud o ddadansoddi data i wyddor data yn ein galluogi ni i weithio gyda chyfaint a chymhlethdod y data sydd bellach yn cael ei gasglu ym maes iechyd a gofal.

Er mwyn i’r newid hwn ddigwydd, mae angen i ni rannu gwybodaeth gyda phobl i’w helpu i ddeall sut rydyn ni’n defnyddio eu data iechyd a gofal. Mae angen i ni hefyd ddatblygu sgiliau gwyddor data ym maes gofal cymdeithasol a sicrhau bod gwyddonwyr data yn gallu gweithio gyda data mawr yn ddiogel.

Dim ond megis cychwyn ydyn ni o ran deall rhai o'r cyfleoedd y mae disgyblaethau newydd fel gwyddor data yn eu darparu. Mae ganddyn nhw'r potensial i ddod o hyd i fewnwelediad newydd oedd wedi'i gloi i ffwrdd yn ein data yn flaenorol. 

Gallai’r mewnwelediadau newydd hyn wella ein dealltwriaeth o’r hyn gallwn ni ei wneud a’n helpu i wneud pethau’n well yn y dyfodol.

Awdur y blog

Walid Chehtane

Walid Chehtane

Gyda fy nhîm rwy'n helpu i ddatgloi potensial llawn data gofal cymdeithasol trwy ei drawsnewid yn fewnwelediadau sy'n ein galluogi i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r gweithlu a gwneud penderfyniadau gwybodus.