Skip to Main content

Cael gwell canlyniadau gyda data gofal cymdeithasol

27 Ionawr 2025

Mae Owen Davies, ein Rheolwr Data a Gwybodaeth, yn myfyrio ar ddigwyddiad lle dysgodd ein tîm data fwy am y fenter Canlyniadau Gwell trwy Ddata Cysylltiedig.

Aeth rhai aelodau o’n tîm data i ddigwyddiad yn ddiweddar am fenter Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol, ac roedd yn gyfle dysgu diddorol i ofal cymdeithasol.

BOLD (Better Outcomes through Linked Data) yw’r enw Saesneg ar y fenter hon. Mae’n fenter gan Lywodraeth y DU sy’n gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’i sefydliadau partner i gysylltu setiau data â’i gilydd i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r system gyfiawnder yn gweithio yn y DU.

Adnabod patrymau a thueddiadau

Bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â’r cysyniad o gysylltu data, ac wedi clywed am fanc data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) sy’n cael ei redeg gan yr adran Gwyddor Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Os nad ydych chi’n gyfarwydd ag ymchwil data cysylltiedig, mae’r cysyniad yn eithaf syml. Meddyliwch am yr holl wasanaethau rydych chi’n eu defnyddio. Eich meddyg teulu, darparwr gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, HMRC, DVLA, awdurdodau lleol ac yn y blaen. Mae’r rhain i gyd yn debygol o gasglu data amdanoch chi a’ch teulu bob tro y byddwch chi’n defnyddio un o’u gwasanaethau.

Beth os oedden ni’n gallu gweld patrymau a thueddiadau all dim ond cael eu canfod drwy gyfuno setiau data? Beth os oedden ni’n gallu gweld, er enghraifft, sawl gwaith mae gweithiwr gofal wedi ymweld â gofal sylfaenol am ei lesiant meddyliol? A beth os oedden ni’n gallu gweld a oedd unrhyw wahaniaethau yn dibynnu ar ble roeddech chi’n byw neu’r swydd oedd gennych chi?

Dyma beth mae cysylltu data yn ei wneud. Mae’n cryfhau’r data sydd ar gael i ni er mwyn datgelu gwybodaeth na fyddai’n weladwy fel arall.

Mae’n bwysig cofio bod hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio data dienw. Mae eich enw yn cael ei dynnu o’r data, ac mae unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu pwy ydych chi wedi’i hamgryptio. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cyfeiriadau a rhifau adnabod. Drwy amgryptio’r wybodaeth, mae bron yn amhosibl gwybod pwy ydych chi, ond mae modd defnyddio’r darnau hyn o wybodaeth o hyd i gysylltu eich data â’i gilydd a deall yr ardaloedd mae pobl yn byw.

Gwneud y gorau o SAIL

Roedd gan yr arddangosfa Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD) rai prosiectau trawiadol, ond mae cael banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ar ein stepen drws yn golygu bod y rhan fwyaf o brosiectau wedi'u gwneud gyda'r dulliau roedden ni wedi'u gweld (ac wedi bod yn rhan ohonyn nhw) o'r blaen.

SAIL yw’r storfa ddata cysylltiedig fwyaf datblygedig yn y DU, ac mae’n adnabyddus ledled y byd. Mae'n rhywbeth dylen ni fod yn ei ddefnyddio mwy mewn ymchwil gymdeithasol yng Nghymru, a dyma'r rheswm mai Gofal Cymdeithasol Cymru yw'r arweinydd thema gofal cymdeithasol ar gyfer Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru.

Rydyn ni eisiau annog rhagor o sefydliadau gofal cymdeithasol i ddarparu eu data gofal cymdeithasol i fanc data SAIL er mwyn i ni allu gwneud mwy o ymchwil data cysylltiedig yng Nghymru ar ofal cymdeithasol i oedolion.

Dysgu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Fe wnaeth un darn o waith yn benodol dal ein sylw. Gwaith roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi’i wneud gyda data ffeiliau achos gan lawer o sefydliadau gwahanol oedd hyn, fel carchardai a gwasanaethau prawf.

Roedd y gwaith yn edrych ar ddata distrwythur (naratif a thestun rhydd) mewn systemau data i benderfynu a oedd rhywun ym mhoblogaeth y carchar yn rhiant.

Rydyn ni’n gwybod bod cael rhiant yn y carchar yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Ac rydyn ni’n gwybod nawr gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol yn y dyfodol, a gall hyn yn ei dro arwain at ganlyniadau gwaeth pan fydd pobl yn oedolion.

Nid yw data ar nifer y rhieni yn y system garchardai yn hysbys iawn mewn gwirionedd. Felly, os nad ydyn ni eisoes yn gweithio gyda theuluoedd rhieni sydd yn y carchar, yna mae llawer o blant agored i niwed gallen ni fod yn eu helpu.

Ond gall gweithio gyda data distrwythur fod yn anodd iawn. Yn y gorffennol, roedd yn rhaid i berson go iawn ddarllen data gyda llawer o destun rhydd.

Byddai’r person yn chwilio am bethau penodol yn y data. Yn yr achos hwn, bydden nhw’n chwilio am arwyddion bod gan garcharor blant. Ond drwy chwilio’n gyflym ar Google, mae’n awgrymu bod 87,726 o bobl yn y carchar yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2024. Dyna lawer o ffeiliau achos i fynd drwyddyn nhw! Beth os oedden ni’n gallu dysgu cyfrifiadur i wneud hyn?

Dyma beth yw Prosesu Iaith Naturiol (NLP). Defnyddiodd y tîm yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder y dechnoleg hon, sef math o adnodd ddeallusrwydd artiffisial, i “addysgu” cyfrifiadur sut mae “darllen” ffeil achos. Fy nyfyniadau i yw’r rhain, gan mai cysyniadau dynol yw addysgu a darllen. Nid dyna beth yw Prosesu Iaith Naturiol mewn gwirionedd, ond maen nhw’n dermau gallwn ni eu hadnabod.

Yr hyn mae’r cyfrifiadur yn ei wneud yw chwilio am batrymau, ymadroddion a geiriau a allai awgrymu bod gan berson blentyn. O ran y deallusrwydd artiffisial, po fwyaf o ddata sydd gan y cyfrifiadur i’w archwilio, y mwyaf mae’n dechrau adnabod y cyd-destun mae’r gair yn cael ei defnyddio ynddo.

Er enghraifft.

Cefais blentyn pan oeddwn i’n 16 oed…”

a

Dim ond plentyn oeddwn i pan oeddwn i yn y ddalfa gyntaf.

Mae’r naill a’r llall yn defnyddio’r ymadrodd “plentyn”, felly mae angen i’r cyfrifiadur gydnabod bod gwahaniaeth rhwng y ddau. Mae’n rhaid i’r cyfrifiadur wybod yr holl wahanol ffyrdd y gall rhywun gyfeirio at blentyn hefyd. Mae angen gwneud llawer o waith er mwyn gwneud hyn.

Roedd gan y model Prosesu Iaith Naturiol, a gafodd ei ddefnyddio i ddadansoddi data, gyfradd llwyddiant o tua 90 y cant. Drwy ychwanegu rhagor o wybodaeth am wahaniaethau mewn tafodiaith ac iaith, mae’r tîm yn credu y gall y ffigur hwn fod hyd yn oed yn uwch.

A allai weithio ym maes gofal cymdeithasol?

Mae Prosesu Iaith Naturiol yn cynnig adnodd arall i ymchwilwyr. Ar gyfer gofal cymdeithasol, mae hon yn ffynhonnell wybodaeth gyfoethog sydd heb ei defnyddio eto.

Rydyn ni’n casglu llawer o wybodaeth ddistrwythur ym maes gofal cymdeithasol. Er enghraifft, bob tro byddwn ni’n ysgrifennu nodyn achos, yn cwblhau asesiad neu’n ysgrifennu adroddiad ar gyfer y llys, rydyn ni fel arfer yn ysgrifennu cryn dipyn o destun rhydd. Dylen ni fod yn dangos llawer mwy o ddiddordeb wrth edrych ar y darnau hyn o ddata, gan fod llawer o wybodaeth dan glo yn y data hwnnw. Rydyn ni nawr yn dechrau dod o hyd i’r allweddi a fydd yn rhoi mynediad i ni at yr wybodaeth yn y data.

Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y cam lle mae’n hawdd cael gafael ar wyddonwyr data ym maes gofal cymdeithasol, a dim ond yn ddiweddar mae adnoddau wedi bod ar gael i’n galluogi i ddefnyddio dulliau fel Prosesu Iaith Naturiol. Ond mae’n faes ymchwil sy’n ennill momentwm, a thechnegau fel y rhain sy’n denu mwy a mwy o bobl i fentro a meddwl, “Hmm, tybed allwn ni wneud rhywbeth fel hynny?”.