Skip to Main content

Adnodd newydd i'ch helpu i ddarganfod, casglu, rhannu a defnyddio tystiolaeth

30 Medi 2024

Rydyn ni'n falch iawn o lansio'r Canllaw adnoddau ar ddefnyddio tystiolaeth ar ein gwefan.

Yn y blog hwn mae Dr Gill Toms o Datblygu arfer a gyfoethogir gan dystiolaeth (DEEP) yn cyflwyno cefndir y canllaw ac yn esbonio pa gynnwys gallwch chi ddisgwyl gweld yno. 

Pam gafodd y canllaw ei ddatblygu?

Roedd y canllaw gynt wedi ei leoli ar wefan DEEP a chafodd ei greu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Cafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Pwrpas y canllaw yw helpu'r gweithlu ymateb i ofynion y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r Fframwaith Perfformiad a Gwella yn helpu awdurdodau lleol i adrodd ar eu gwaith ynghylch y Codau ymarfer a gafodd ei gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Pwy sy'n gallu defnyddio'r canllaw?

Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan bobl sy'n gweithio ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae e'n ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio tystiolaeth i wella eu hymarfer.

Pa wybodaeth sydd yn y canllaw?

Mae'r canllaw hwn yn cyfeirio at ystod o adnoddau ar-lein sydd eisoes wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddarganfod, casglu, rhannu a defnyddio tystiolaeth gofal cymdeithasol.

Mae adrannau'r canllaw yn edrych ar feysydd penodol fel polisi a deddfwriaeth, cynllunio gwerthusiadau a chasglu a dadansoddi gwahanol fathau o ddata. 

Gall yr adnoddau sydd wedi eu nodi yn y canllaw eich helpu i:

  • ddod o hyd i dystiolaeth bresennol a meddwl yn feirniadol amdani
  • gynllunio a chynnal gwerthusiadau a gwaith ymchwil
  • rannu eich canfyddiadau mewn ffordd effeithiol.

“Rydyn ni'n falch iawn o lansio'r canllaw ar y Grŵp Gwybodaeth. Mae'n adnodd mor ddefnyddiol a chynhwysfawr. Ac mae'n tynnu sylw at ein hymrwymiad i helpu pobl i ganfod, defnyddio a rhannu tystiolaeth i lywio a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru.” - Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Gwelliant a Datblygu 

Sut gallaf helpu i lunio'r canllaw?

Rydyn ni'n diweddaru'r canllaw bob chwe mis sy'n sicrhau bod ein cynnwys yn berthnasol ac yn gyfredol. Gallwch chi helpu i ddiweddaru'r canllaw a sicrhau ei fod yn ddefnyddiol trwy roi eich adborth i ni. A rhowch wybod os ydych chi'n gweld rhywbeth y credwch y dylwn ni ei gynnwys. 

Awdur y blog

Dr Gill Toms

Dr Gill Toms

Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)

Mae gen i gefndir mewn seicoleg ac ymchwil. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys dementia a seibiannau byr i ofalwyr di-dâl. Rwy'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gweithio yn DEEP ers cwpl o flynyddoedd. Rwyf wedi mwynhau dysgu mwy am ofal cymdeithasol gan ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol. Rwy'n teimlo'n ffodus i fod mewn rôl lle gallaf ddysgu cymaint gan eraill. Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau cerdded mynyddoedd ac arfordir Gogledd Cymru a dysgu Cymraeg.