Skip to Main content

Prosiect cefnogi gofal drwy gydweithio: cryfhau'r berthynas rhwng gofalwyr cyflogedig a gofalwyr di-dâl

12 Chwefror 2025

Yn y blog hwn mae Nick Andrews yn cyflwyno’r prosiect Collaboration for Care. Ac mae’n disgrifio sut gafodd egwyddorion a dulliau Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) eu defnyddio fel rhan ohono.

Dibenion y prosiect

Roedd hwn yn brosiect cyfnewid gwybodaeth, cafodd ei gynnal rhwng Hydref 2023 ac Ebrill 2024. Nod y prosiect oedd rhannu canfyddiadau newydd ar sut i wella perthnasoedd rhwng gofalwyr cyflogedig a gofalwyr di-dâl. Ac yn sgil hynny, gwella canlyniadau i'r bobl y maen nhw’n eu cefnogi.

Cafodd adroddiad y prosiect ei gyhoeddi ym mis Medi 2024.

Cefndir y prosiect

Cafodd y prosiect ei ddatblygu gan bobl sy'n ceisio gwella cefnogaeth i ofalwyr di-dâl a chyflogedig yng Nghymru, yr Alban a'r UE (trwy Eurocarers). Eu nod oedd hyrwyddo cydweithredu mewn ymarfer a pholisi. 

Prifysgol Strathclyde a Phrifysgol Dundee oedd yn arwain y prosiect. Roedd rhaglen DEEP yng Nghymru yn cefnogi’r prosiect ac roedd y tîm yn gweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd amrywiol.

Roedd y prosiect yn gyfle i ystyried y cwestiwn hwn:

Sut ydyn ni’n hyrwyddo cydweithio rhwng gofalwyr anffurfiol (di-dâl) a gofalwyr ffurfiol (cyflogedig) er gwaetha’r cyfyngiadau strwythurol parhaus?

- CollaborationforCare

Mae cyfyngiadau strwythurol yn cyfeirio at systemau anhyblyg, sydd ddim yn ymateb yn dda i heriau presennol. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o alw ar wasanaethau gofal a chymorth, recriwtio a chadw staff, tlodi cynyddol ac anghydraddoldeb, a newid yn yr hinsawdd.

Sut cafodd y prosiect ei weithredu?

Un o egwyddorion allweddol DEEP yw gwerthfawrogi mathau amrywiol o dystiolaeth.  Roedd y prosiect yn cynnwys tystiolaeth eang o ymchwil, pobl â phrofiad bywyd, ymarferwyr a llunwyr polisi. Roedd y pedwar gweithdy cafodd ei gynnal yn ystod y prosiect yn archwilio bob un yn ei dro. 

Mae'r dull DEEP yn cefnogi cyd-gynhyrchu a deialog gan gynnig ystod o offer a dulliau i helpu pobl i siarad yn dda gyda'i gilydd. Roedd dulliau adrodd stori fel rhannu Eiliadau Hud a Thrasig yn rhan o'r broses. Roedd cyfraniad rhanddeiliaid wedyn yn cael eu harchwilio gan ddulliau fel Cymuned Ymholi a Sgwrs Archwiliadol.

Canfyddiadau

Un o ganfyddiadau allweddol y prosiect oedd sut roedd profiadau, cyfleoedd a rhwystrau yn debyg ar draws y gwledydd a gymerodd rhan yn y prosiect.

Nododd y cyfranogwyr dair thema eang:

• gwerthfawrogi gofal a'i wneud yn weladwy

• ymarfer wedi’i seilio ar berthynas (gan gynnwys cynllunio gofal a chymorth)

• llunio a gweithredu polisi sy'n seiliedig ar berthynas.

Gwerthfawrogi gofal a'i wneud yn weladwy

Roedd cyfranogwyr yn ystyried gofalu fel gweithgaredd arbennig o ddynol. Roedd modd ei gefnogi, ond dim ei ddisodli, gan beiriannau. Roedden nhw'n meddwl bod gofal (di-dâl a chyflogedig) yn dioddef o ddiffyg gwerthfawrogi, a bod angen ei gydnabod a'i hyrwyddo. Byddai dull Moeseg Gofal yn codi statws gofalu fel gweithgaredd medrus, caredig, dychmygus a chraff iawn (Gilligan, 1982).*

Mae Moeseg Gofal yn ddamcaniaeth sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd ac arwyddocâd moesol gofalu a derbyn gofal. Mae hyn yn golygu bod y ffocws yn cael ei roi ar empathi, tosturi a chyd-destun personol yn hytrach nag ar egwyddorion haniaethol neu'r ffordd safonol o weithio.

Roedd cyfranogwyr yn herio'r farn hanesyddol o ofal fel rhywbeth a oedd yn seiliedig ar dasgau'n unig. Roedd yn aml yn cael ei ystyried yn 'waith menyw', yn hawdd i'w gymryd yn ganiataol, ac felly yn llai gwerthfawr. Roedden nhw’n cytuno bod hyn wedi methu â chydnabod pwysigrwydd cefnogi gofalwyr di-dâl a theuluoedd ehangach. Yn ogystal, roedd y cyfranogwyr yn ein hatgoffa fod rhai gofalwyr cyflogedig sy'n dod o grwpiau ymylol, hefyd yn wynebu heriau fel gwahaniaethu, cyflogau isel ac amodau gwaith gwael.

Cyfeirnod* - Cliciwch i ehangu

* Gilligan, C. (1982). In a different voice: Psychological theory and women's development. Harvard University Press.

Ymarfer sy’n seiliedig ar berthynas a chynllunio cymorth

Roedd grwpiau gwahanol yn cytuno bod yn rhaid i ofal a chymorth fod yn berthynol ac ymatebol. Roedd hyn ar sail y ffaith fod pob cyd-destun gofalu yn unigryw a chymhleth. Mae'n golygu gweithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar berthnasoedd ystyrlon a gwerth chweil, yn hytrach na chanllawiau caeth neu ofal sy’n seiliedig ar dasgau. 

Pan fydd gofalwyr cyflogedig a di-dâl yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd hyblyg, mae hyn o fudd iddyn nhw a'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

Llunio polisi sy’n seiliedig ar berthynas

Nododd cyfranogwyr yr angen i godi proffil a statws gofal. Yn ogystal â hyn, roedden nhw’n teimlo ei bod hi’n flaenoriaeth i gomisiynwyr a llunwyr polisi greu'r amodau cywir fel bod ffyrdd perthynol ac ymatebol o weithio'n ffynnu. 

Cafodd enghreifftiau arfer da o Gymru eu rhannu gan Gyngor Sir Gwynedd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae comisiynwyr awdurdodau lleol a llunwyr polisi yn y ddwy ardal hon wedi bod yn cydweithio'n gynhyrchiol â darparwyr gofal cartref, gofalwyr di-dâl, a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. 

Mae hyn wedi helpu i ddatblygu ymarfer mwy personol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Daeth yn amlwg yn ystod y broses mai straeon pobl yn hytrach na'r ystadegau sy'n fwy effeithiol ar gyfer gwerthuso wrth lunio polisïau sy'n seiliedig ar berthynas.

Mwy o wybodaeth

Dewch o hyd i fanylion y prosiect a'r adroddiad terfynol yma:

https://www.scottishinsight.ac.uk/Programmes/ScotlandinEurope/CollaborationinCare.aspx

Am ragor o wybodaeth ar DEEP a'r dulliau sy'n cael eu defnyddio: https://www.deepcymru.org/cy/

Awdur y blog

Nick Andrews

Nick Andrews

Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)

Mae Nick yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig ac mae wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae'n cydlynu'r rhaglen DEEP. Ffocws DEEP yw'r dull cydgynhyrchu o ddefnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu, gan gynnwys dulliau stori a deialog. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn ymarfer ac yn cynllunio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae'n gallu gwneud cysylltiadau rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer ac mae wedi datblygu rhwydwaith helaeth ledled Cymru a'r DU. Mae'n angerddol dros symud o ymarfer sy'n cael ei yrru gan broses, i ymarfer sy'n canolbwyntio ar berthynas.