Skip to Main content

Creu Cyfres cipolwg ar y gweithlu

20 Mai 2025

Mae Dr Grace Krause o'n tîm ymchwil yn myfyrio ar sut a pham mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu ac yn archwilio ei heffaith.

Cyfres cipolwg ar y gweithlu

Rydyn ni wedi cynhyrchu ein hail set o bapurau briffio Cyfres cipolwg ar y gweithlu

Rydyn ni wedi cynhyrchu crynodeb Gwella telerau ac amodau ar gyfer staff gofal cymdeithasol yng Nghymru ac un yn trafod Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru

Beth yw pwrpas ein papurau briffio?

Yn 2024, am yr ail flwyddyn yn olynol, cafodd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg am eu profiadau yn y gwaith. Fe wnaethom hefyd siarad â gweithwyr gofal cymdeithasol mewn grwpiau ffocws i ddeall eu profiadau’n well. 

Cafodd yr ymatebion o'r arolwg a'r grwpiau ffocws eu cyhoeddi fel Gofal Cymdeithasol Cymru: Dweud eich dweud – 2024 canfyddiadau. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad casglu data blynyddol, sy'n rhoi data i ni sy’n cael eu hadrodd gan ddarparwyr. Mae'r ddwy ffynhonnell yn rhoi darlun cliriach i ni am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r ddau adroddiad hyn yn hir, dros 150 tudalen. Felly, rydyn ni wedi creu'r papurau briffio hyn i helpu pobl sy'n brin o amser i ddeall sut i wneud pethau'n well i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ein tîm ymchwil yn cymryd y canfyddiadau pwysicaf o'r ddau adroddiad, yn ogystal â data arall sydd gennym, a'u gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

"Er mwyn helpu i wneud newid cadarnhaol a hirdymor i ofal cymdeithasol, mae'n hanfodol ein bod ni’n cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda phobl sy'n defnyddio gofal a chefnogaeth ac yn gwrando ar lais y rhai sy'n darparu'r gwasanaeth. 

Rydyn ni wedi defnyddio ein data a'n hymchwil ein hunain i greu Cyfres cipolwg ar y gweithlu i archwilio themâu a phynciau allweddol sy'n effeithio ar weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru ac sy'n bwysig iddyn nhw." 

- Sarah McCarty, Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru

Gwneud ymchwil yn hygyrch

Er mwyn gwneud yr ymchwil yn hygyrch, rydyn ni’n dewis y data rydyn ni’n credu bydd fwyaf defnyddiol i unrhyw un sy'n gweithio tuag at wella sefyllfa'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Yna, rydyn ni’n cyflwyno'r data hwn mewn Cymraeg clir a Saesneg plaen ac yn defnyddio ffynonellau ymchwil a data eraill i roi cyd-destun y data i'r darllenwyr. Er enghraifft, rydyn ni wedi cynnwys ymchwil gan GIG Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Sefydliad Joseph Rowntree. Mae hyn yn rhoi gwell syniad i ddarllenwyr o sut mae llesiant ac amodau gwaith y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cymharu mewn perthynas â gweithwyr gofal iechyd a'r cyhoedd yn gyffredinol. 

Rydyn ni hefyd yn cynnwys detholiad o ddyfyniadau uniongyrchol gan weithwyr gofal cymdeithasol i ddangos, yn eu lleisiau eu hunain, sut maen nhw'n gwneud synnwyr o'u hamgylchiadau gwaith a'u llesiant. 

Mae pob papur briffio yn y gyfres hefyd yn rhoi trosolwg o sut rydyn ni fel sefydliad yn ceisio mynd i'r afael â'r materion sy’n codi yn yr adroddiad.

Y tu ôl i'r llenni, mae gennym ni broses olygyddol drylwyr sy'n cynnwys sawl lefel a haen. Mae ein tîm cyfathrebu yn rhan o'r broses hon i sicrhau bod y cynnwys mor glir, cyson a hygyrch â phosibl.

Beth yw cynnwys ein papurau briffio 2024?

Fel rhan o Gyfres cipolwg ar y gweithlu ar Wella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, rydyn ni’n edrych ar themâu fel boddhad mewn swydd, cyflog ac ad-daliad a mathau o gontract. Rydyn ni’n edrych yn benodol ar y defnydd o gontractau dim oriau o fewn gofal cymdeithasol a sut gallan nhw effeithio ar bobl. 

Yn ein papur ar Gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, rydyn ni’n edrych ar ffactorau sy’n gallu effeithio ar lesiant fel llwyth gwaith, y teimlad o gael eich gwerthfawrogi a phethau fel bwlio ac aflonyddu. Rydyn ni hefyd yn edrych ar ba mor ddiogel mae pobl yn teimlo yn y gwaith ac a ydyn nhw'n meddwl bod digon o gefnogaeth ar gael.

Sut gall Cyfres cipolwg ar y gweithlu eich helpu yn eich gwaith?

Mae pawb yng Nghymru sy’n cael gofal a chefnogaeth yn haeddu cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae hyn hefyd yn wir am y gweithlu gofal cymdeithasol. 

Mae ein data ni’n dangos fod llawer o bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig gweithwyr gofal, yn cael trafferth ymdopi’n ariannol. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod llai na hanner y gweithwyr gofal cymdeithasol a ymatebodd i'r arolwg wedi dweud bod digon o gefnogaeth ar gael i ddelio â straen. 

Mae Cyfres cipolwg ar y gweithlu yn gwneud data a gwybodaeth berthnasol arall am amodau gwaith a llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yn hygyrch. Rydyn ni’n gobeithio eu bod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd eisiau deall mwy a gwella bywydau'r rhai sy'n darparu gofal a chefnogaeth i bobl Cymru.

Awdur y blog

Dr Grace Krause

Dr Grace Krause

Prif diben fy rôl yw gwneud ymchwil yn hygyrch i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Fel tîm, rydyn ni'n cymryd ymchwil academaidd, ymchwil gan sefydliadau eraill neu gan bobl gyda phrofiad byw, a data Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn creu gwybodaeth sy'n hawdd ei deall. 

Rwyf wedi fy hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol ac mae gen i brofiad o weithio gydag ystod o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl gydag anabledd dysgu, pobl gyda phrofiad camdrin sylweddau, a goroeswyr gwaith rhyw. 

Mae gen i radd feistr mewn troseddeg a PhD mewn gwyddorau cymdeithasol. Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys amryw o feysydd megis addysg, agweddau tuag at frechu, y ffordd mae pobl yn trin credoau moesol, ac anghydraddoldeb yn y gweithle.