
Gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024
Lluniwyd gan Dr Grace Krause, golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Rhian Reynolds
Yn y papur briffio hwn, rydyn ni wedi casglu canfyddiadau o’n hymchwil ar delerau ac amodau yn y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni wedi grwpio ein canfyddiadau yn ôl y themâu canlynol:
- boddhad mewn swydd
- cyflog ac ad-daliad
- mathau o gontract
- telerau ac amodau eraill.
Yn dilyn trafodaeth ar y canfyddiadau hyn, rydyn ni’n amlinellu’r hyn sy’n cael ei wneud i wella amodau gwaith y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Y gweithlu gofal cymdeithasol mewn niferoedd
Mae’r sector gofal cymdeithasol yn rym economaidd sylweddol yng Nghymru, gan gyflogi 88,232 o bobl ledled y wlad (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025). Ychwanegodd y sector tua £2.1 biliwn o werth i economi Cymru yn 2023 (Alma Economics, 2024).
Yn 2024, fe wnaethon ni gynnal ein hail arolwg o’r gweithlu i ganfod sut roedd pobl yn teimlo am weithio ym maes gofal cymdeithasol. Ymatebodd 3,307 o weithwyr gofal, 461 o reolwyr gofal cymdeithasol, 838 o weithwyr cymdeithasol, a 418 o bobl mewn rolau eraill. Cafodd ddau grŵp ffocws a 27 o gyfweliadau eu cynnal hefyd i ddysgu mwy am brofiad gweithwyr gofal cymdeithasol.
Er bod yr arolwg yn gofyn rhai pethau sydd yr un fath â’r llynedd (Krause et al., 2024a, Krause et al., 2024b), mae rhai gwahaniaethau sylweddol hefyd. O ganlyniad, mae pethau oedd ym mhapur briffio y llynedd heb eu cynnwys y tro hwn.
Dyma rai o’r pethau pwysig rydyn ni wedi’u dysgu gan y bobl a ymatebodd i’r arolwg (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
- roedd 68 y cant yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon â’u telerau ac amodau
- roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gallu diwallu anghenion y bobl a oedd yn cael gofal a chymorth (75 y cant)
- roedd 11 y cant ar gontract dim oriau
- dywedodd 65 y cant o’r bobl a oedd â chontractau dim oriau y byddai’n well ganddyn nhw fod ar gontract oriau sefydlog neu reolaidd
- roedd 46 y cant yn anfodlon â’u cyflog, gyda 35 y cant yn fodlon
- dywedodd 42 y cant eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, dywedodd 32 y cant eu bod ‘prin yn gallu ymdopi’, a dywedodd 23 y cant eu bod yn ei chael yn ‘eithaf’ neu’n 'anodd iawn’ ymdopi.
Mae’r arolwg Dweud eich Dweud yn edrych ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Arolwg Staff GIG Cymru 2023 (GIG Cymru, 2024) yn gofyn sut beth yw gweithio i’r GIG yng Nghymru i weithwyr iechyd. Yn y papur briffio hwn, rydyn ni’n cymharu’r data ar gyfer cwestiynau sydd yr un fath yn y ddau arolwg. Mae hyn er mwyn dangos sut gallai profiadau’r gweithlu gofal cymdeithasol a gweithlu’r GIG yng Nghymru fod yn debyg neu’n wahanol.
Pam ei bod yn bwysig gwella telerau ac amodau
Mae telerau ac amodau da yn bwysig i lesiant gweithwyr. Gall amodau gwaith gwael hefyd effeithio ar gyfraddau cadw staff ac ar ddenu a recriwtio i’r sector. Gall hyn gael effaith ganlyniadol ar ddarparu gofal a chymorth.
Mewn ymateb i’r cwestiwn a oedden nhw’n fodlon â’u telerau ac amodau, dywedodd 68 y cant o’r holl ymatebwyr eu bod yn fodlon yn gyffredinol. Roedd rhywfaint o amrywiaeth rhwng rolau. Roedd 66 y cant o weithwyr gofal yn fodlon â’u telerau a’u hamodau. Cododd hyn i 72 y cant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a 77 y cant ar gyfer rheolwyr (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Drwy gynnal ein harolwg gweithlu, rydyn ni’n gwybod fod 69 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig wedi ymuno â’r sector oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Dywedodd 45 y cant eu bod yn teimlo y byddai’n swydd y bydden nhw’n ei mwynhau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024). Mae’r data hwn yn awgrymu bod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru’n ymrwymo’n llawn i’w gwaith a bod gweithwyr eisiau darparu’r gofal gorau posibl i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Er hynny, rydyn ni’n gwybod o ymchwil arall y gall amodau gwaith yn y sector ei gwneud yn anodd cyflawni hyn.
Mae adroddiad Gwaith Teg Cymru, cafodd ei gynhyrchu gan y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019, yn argymell edrych ar amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’n disgrifio’r sector fel ‘diwydiant craidd sy’n cyfrannu at lesiant unigolion a chymdeithasol’. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi, er gwaethaf gweithio mewn sector o bwys mawr, bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn aml yn cael trafferth gydag ansicrwydd ac amodau gwaith gwael.
Mae papur ymchwil gan y Senedd, cafodd ei gyhoeddi yn 2022, yn dweud bod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru ‘mewn argyfwng’ (James, 2022). Materion recriwtio a chadw yw’r prif resymau dros hyn (James, 2022). Nid oes digon o staff yn y sector o’i gymharu â sectorau eraill yn economi Cymru. Yn 2023, roedd tua 5,299 o swyddi gwag yn y maes gofal cymdeithasol ledled Cymru, sy’n cyfateb i chwech y cant o’r gweithlu (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025).
Rydyn ni wedi grwpio ein canfyddiadau ar delerau ac amodau yn wahanol themâu er mwyn i ni allu archwilio’r data’n fanylach.

Rydyn ni’n gwybod fod 69 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig wedi ymuno â’r sector oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl
Boddhad mewn swydd
Roedd ein harolwg o’r gweithlu yn 2024 yn gofyn i weithwyr gofal cymdeithasol beth roedden nhw’n mwynhau am weithio ym maes gofal cymdeithasol. Gofynnodd hefyd beth, yn eu barn nhw, oedd angen ei wneud er mwyn gwella’r profiad o weithio yn y sector. Roedd pum prif beth y dywedodd pobl eu bod yn eu mwynhau am weithio ym maes gofal cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
- y gallu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl
- y berthynas â’r bobl roedden nhw’n eu cefnogi
- perthnasoedd cefnogol gyda chydweithwyr a chydweithio
- natur amrywiol eu gwaith
- y teimlad o gyflawniad a boddhad personol.
Roedd cyfweliadau â gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd yn tynnu sylw at yr hyn roedden nhw'n mwynhau am eu gwaith (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“gallu cefnogi pobl a cheisio gwneud gwahaniaeth i’w bywydau. Eu helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig ac [helpu] i wynebu heriau.” (Gweithiwr cymdeithasol plant a theuluoedd)
“Rydw i wrth fy modd yn gweld y bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn byw bywyd gwych! Llawer o straeon hyfryd i’w rhannu bob amser, ac mae’n rhoi boddhad i mi. Mae’n fy atgoffa o pam y gwnes i ddechrau gweithio yn y maes.” (Rheolwr cartref gofal i oedolion)
Dywedodd pobl sy’n gweithio ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol eu bod yn cael boddhad mawr yn eu gwaith. Ond dangosodd yr arolwg hefyd nad oedden nhw bob amser yn teimlo bod ganddyn nhw’r gallu i wneud eu swyddi gystal â phosib. Roedd y rhan fwyaf o weithwyr a ymatebodd i’n harolwg gweithlu (75 y cant) yn cytuno y gallan nhw ddiwallu anghenion y bobl roedden nhw’n gofalu amdanynt. Ond dim ond tua hanner (55 y cant) oedd yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda. Mae hyn yn debyg i ymatebion yn arolwg staff GIG Cymru. Dim ond 52 y cant a ddywedodd fod ganddyn nhw’r amser i fodloni’r holl ofynion sy’n gwrthdaro yn eu gwaith.
Roedd yr ymateb yn wahanol yn dibynnu ar y rôl gofal cymdeithasol. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn llai tebygol nag eraill i gytuno eu bod yn gallu diwallu anghenion eu cleientiaid (55 y cant), neu â digon o amser i wneud eu gwaith yn dda (40 y cant). Mewn cymhariaeth, dywedodd 78 y cant o weithwyr gofal ac 81 y cant o reolwyr eu bod yn gallu diwallu anghenion y bobl yr oedden nhw’n gweithio gyda nhw. Dywedodd 60 y cant o weithwyr gofal a 47 y cant o reolwyr fod ganddyn nhw ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda.
Dangosodd yr arolwg hefyd nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol bob amser yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth ar gyfer eu llesiant yn y gwaith. O ran straen, dim ond 41 y cant o weithwyr oedd yn teimlo bod digon o gefnogaeth ar gael. Rydyn ni wedi cynhyrchu papur briffio ar wahân ar gyfer y gyfres cipolwg ar y gweithlu hon sy’n trafod llesiant y gweithlu'n fwy manwl. Mae ar gael yma.
Roedd yr arolwg hefyd yn tynnu sylw at yr heriau o gadw gweithlu profiadol a chymwys pan fo boddhad mewn swydd yn isel. Dywedodd tua 25 y cant o’r holl weithwyr cofrestredig eu bod yn disgwyl gadael y sector gofal cymdeithasol. Fe wnaethon ni ofyn i’r grŵp hwn am ba hyd roedden nhw’n bwriadu aros. Ar gyfartaledd, 13 mis oedd yr ateb (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Roedd pedwar prif reswm pam fod gweithwyr yn bwriadu gadael:
- cyflog isel
- diffyg cydnabyddiaeth a chymorth
- amodau gwaith gwael
- cyfleoedd datblygu cyfyngedig.
Cyflog ac ad-daliad
Mae’r cyflog ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yn amrywio yn ôl math o rôl, ac yn ôl cyflogwr. Nid oes rhifau penodol ar gyfer Cymru. Ond mae data ar draws y DU yn dangos ym mis Ebrill 2024, mai £48,507 oedd cyfartaledd incwm llawn amser blynyddol rheolwyr a pherchnogion gofal preswyl, gofal dydd a chartref. Roedd hyn yn cyfateb i £21.52 fesul awr ar gyfartaledd. Roedd gan reolwyr a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol incwm llawn amser blynyddol o £43,575 y flwyddyn ar gyfartaledd, ac roedd ganddyn nhw gyfartaledd cyflog fesul awr o £22.84. Tra bod gweithwyr cymdeithasol ar gyfartaledd o £42,397 y flwyddyn, ac yn ennill £22.12 yr awr ar gyfartaledd. Roedd rheolwyr a pherchnogion gofal preswyl, dydd a chartref yn gweithio 37.7 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a rheolwyr a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yn gweithio ar gyfartaledd o 34 awr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024).
Mewn cymhariaeth, roedd gan weithwyr gofal a gweithwyr gofal cartref incwm llawn amser blynyddol cyfartalog o £26,092 neu gyflog cyfartalog fesul awr o £13.62. Roedd gan uwch weithwyr gofal incwm llawn amser blynyddol o £27,998 ar gyfartaledd, ac incwm fesul awr o £13.83. Roedd gweithwyr gofal yn gweithio 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac roedd uwch weithwyr gofal yn gweithio 36.4 awr yr wythnos ar gyfartaledd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024). Mae’r ffigurau hyn yn is na’r amcangyfrifon gan Sefydliad Joseph Rowntree, sy’n dangos bod angen i un person yn 2024 ennill £28,000 y flwyddyn i fforddio safon byw dderbyniol (Davies et al., 2024). Roedd angen i gwpl â dau blentyn dderbyn cyflog cyfartalog cyfun o tua £69,400 y flwyddyn (Davies et al., 2024).
Yn gyffredinol, roedd 42 y cant o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod naill ai’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol neu’n ‘byw’n gyfforddus’. Pan fyddwn ni’n ystyried y data yn ôl y math o swydd, mae gweithwyr gofal yn sefyll allan fel rhai y mae pwysau ariannol yn effeithio arnyn nhw. Dywedodd bron i 25 y cant o weithwyr gofal eu bod yn ei chael yn’ eithaf anodd’ neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi’n ariannol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Roedd lefelau bodlonrwydd â chyflog yn amrywio ar draws gwahanol rannau’r gweithlu. Roedd 50 y cant o weithwyr gofal a 37 y cant o weithwyr cymdeithasol yn anfodlon â’u cyflog. Roedd 45 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol yn fodlon â’u cyfradd gyflog bresennol, gyda 25 y cant yn dweud eu bod yn anfodlon (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Nododd gweithwyr gofal cymdeithasol mai cyflogau isel yw un o’r prif resymau dros y trosiant staff uchel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Does neb eisiau gwneud y gwaith mwyach. Fe gollon ni naw o bobl o fewn dau fis oherwydd y cyflog isel. Rydyn ni ar yr isafswm cyflog... dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, ond rydyn ni’n gwneud y gwaith oherwydd rydyn ni’n poeni am bobl ac rwy’n meddwl eu bod nhw’n manteisio ar hynny.” (Swydd anhysbys)
“Archfarchnadoedd, ffatrïoedd, maen nhw’n cael eu talu’n fwy na ni. Sut mae hynny’n gwneud unrhyw synnwyr? Tydi o ddim. Felly ydy hynny’n golygu ein bod ni’n ddi-werth? Dyna sut rydyn ni’n teimlo. Ond rydyn ni’n gwneud hyn oherwydd ein bod ni’n poeni am bobl.” (Gweithiwr cymorth)
Gyda cwestiynau penagored am gyflog ac ad-daliad, gwelsom fod costau teithio hefyd yn broblem i ymatebwyr. Yn benodol, dywedodd pobl eu bod yn cael trafferth o ran peidio â chael tâl am eu hamser teithio (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Pan oeddwn i’n gwneud 70 awr yr wythnos, dim ond am ryw 55 awr yr oeddwn i’n cael fy nhalu mewn gwirionedd, oherwydd amser teithio oedd y gweddill.” (Gweithiwr cymorth yn y gymuned)
“Dach chi’n gweld bod gennych chi 20 o bobl i’w gweld mewn diwrnod, ac mae rhai ohonyn nhw’n gallu byw 10 munud ar wahân. Dim ond pum munud sydd gennych chi i gyrraedd yno... rydych chi’n rhoi eich bywyd eich hun mewn perygl hefyd drwy yrru a rhuthro [...] dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n deg i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yn hynny o beth chwaith.” (Gweithiwr cymorth)
“Talu gweithwyr am shifft gyfan, nid dim ond pan maen nhw’n clocio i mewn i alwad. [...] Ac weithiau byddai galwad yn para’n hirach oherwydd bod y cleient angen llawer mwy o sylw, ac roedden ni’n hapus i’w helpu, OND NID OEDDEN NI’N CAEL EIN TALU... [...] Rwy’n dal i deimlo sioc am y fath gamfanteisio.” (Gweithiwr gofal yn y cartref)
Mathau o gontractau
Mae ein gwaith o gasglu data am y gweithlu yn dangos yn gyffredinol bod 79 y cant o’r rheini sy’n cael eu cyflogi ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau parhaol. Mae gan wasanaethau sydd wedi eu comisiynu 6.3 y cant yn fwy o’u gweithwyr ar gontractau parhaol nag awdurdodau lleol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025).
Defnyddio contractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol
Yn arolwg gweithlu 2024 roedd cwestiwn penodol am gontractau dim oriau. Contractau cyflogaeth yw’r rhain sydd ddim yn gwarantu oriau gwaith (Ravalier et al., 2019). Roedd 11 y cant o'r holl ymatebwyr ar gontract dim oriau. Roedd gweithwyr gofal yn llawer mwy tebygol o gael y math hwn o gontract na gweithwyr cymdeithasol neu reolwyr. Dywedodd 14 y cant o weithwyr gofal fod ganddyn nhw gontract dim oriau, o’i gymharu â chwech y cant o weithwyr cymdeithasol a thri y cant o reolwyr. Mae ein gwaith o gasglu data am y gweithlu’n dangos bod cyfanswm o 9.2 y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gontractau dim oriau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025). Rôl y gweithiwr gofal sydd â’r rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol ar gontractau dim oriau, gyda 4,147 (14.9 y cant) o’r gweithwyr ar gontractau dim oriau. Mae’r gyfran uchaf o weithwyr ar gontractau dim oriau (31.4 y cant) mewn gofal cartref drwy wasanaethau sy’n cael eu comisiynu. Ac mae’r gweithwyr gofal yn y gwasanaeth hwn yn cyfrif am y gyfran uchaf (37.5 y cant) sydd ar gontractau dim oriau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025).
O’r bobl a ddywedodd eu bod â chontract dim oriau, dim ond tua 35 y cant o bobl a ddywedodd y bydden nhw’n dewis gweithio dan y math hwn o gontract. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf o unigolion eisiau’r trefniant hwn. Roedd hyn yn arbennig o amlwg o ran rheolwyr (79 y cant) a gweithwyr cymdeithasol (71 y cant) yn dweud nad oedden nhw eu heisiau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).

Dim ond 35 y cant o bobl â chontract dim oriau byddai'n dewis hynny sy'n awgrymu nad yw’r rhan fwyaf o unigolion eisiau’r trefniant hwn
Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn cwestiwn penagored i bobl ynghylch sut roedd contractau dim oriau yn effeithio arnyn nhw. Dywedodd rhai pobl a ymatebodd i’r cwestiwn hwn fod contractau dim oriau yn gadarnhaol oherwydd eu bod yn cynnig hyblygrwydd ychwanegol. Ond dywedodd rhai hefyd eu bod yn anfodlon ag anghysondeb eu horiau yn ogystal â’u cyflog. Nododd un fod contractau dim oriau yn rhoi’r gallu i gyflogwyr eu ‘cosbi’ drwy leihau oriau (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024). Dywedodd pobl fod diffyg gwybodaeth am eu horiau gwaith yn ei gwneud yn anodd talu’r biliau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Dywedodd eraill fod diffyg tâl salwch yn destun pryder (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Dim tâl salwch [felly] os ydw i’n sâl, rwy’n cael fy ngorfodi i weithio. Os nad oes gwaith, dydw i ddim yn cael fy nhalu.” (Gweithiwr gofal yn y cartref)
“Dwi ddim yn gwybod faint o arian dwi’n ei gael o un mis i'r llall, [dwi’n] poeni am fedru talu'r biliau. Dwi eisiau prynu cartref i 'mhlant ond dwi ddim yn gallu cael morgais ar ddim oriau. [Dydy o] Ddim yn gynaliadwy.” (Gweithiwr cartref gofal i oedolion)
Telerau ac amodau eraill
Yn yr arolwg, soniodd bobl am nifer o bynciau eraill yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogaeth, gan gynnwys buddion cyflogaeth fel pensiynau, gwyliau a pholisïau sy’n ystyriol o deuluoedd. Nododd ymatebwyr hefyd am eu hymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth ac aelodaeth o undebau llafur.
Pensiynau
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl, ar draws pob grŵp, fod cynllun pensiwn y gweithle neu gwmni ar gael iddyn nhw. Dywedodd 63 y cant o weithwyr gofal, 72 y cant o weithwyr cymdeithasol, ac 82 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol eu bod yn cael cyfraniad gan eu cyflogwr fel rhan o gynllun pensiwn (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Gwyliau
Roedd bron pob rheolwr gofal cymdeithasol yn cael 28 diwrnod o wyliau â thâl (94 y cant), o’i gymharu â 76 y cant o weithwyr gofal a 77 y cant o weithwyr cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Dim ond 31 y cant o weithwyr gofal oedd yn derbyn tâl salwch y tu hwnt i dâl salwch statudol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024). Tâl salwch statudol yw isafswm y tâl salwch y mae'n rhaid i gyflogwyr ei dalu. Ar hyn o bryd, mae wedi’i osod ar £116.75 yr wythnos (Llywodraeth y DU, 2024). Roedd gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol rywfaint yn fwy tebygol o gael tâl salwch, 63 y cant a 62 y cant yn y drefn honno (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
Yn yr arolwg, dywedodd 53 y cant o weithwyr cymdeithasol a 45 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol bod eu swydd yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd fel gweithio hyblyg, absenoldeb gofalwr, ac absenoldeb rhiant uwch. Roedd gweithwyr gofal yn llawer llai tebygol (16 y cant) o gael mynediad at bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth
Roedd yr arolwg yn gofyn i ymatebwyr am eu hymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth. Dywedodd tua 78 y cant o weithwyr gofal a gweithwyr cymdeithasol eu bod yn ymwybodol. Ac roedd 94 y cant o reolwyr yn ymwybodol o’u hawliau cyflogaeth. Dywedodd 20 y cant o weithwyr gofal ac 19 y cant o weithwyr cymdeithasol nad oedden nhw’n ymwybodol o’u hawliau, o’i gymharu â dim ond pedwar y cant o reolwyr. Nid oeddwn ni’n gofyn am fwy o wybodaeth, felly gallwn ni ddim esbonio pam bod cyn lleied o bobl yn ymwybodol o’u hawliau.
Aelodaeth o undeb llafur
Dangosodd ein harolwg gweithlu amrywiaeth sylweddol o ran aelodaeth undebau llafur ar draws gwahanol rannau o’r gweithlu. Yn gyffredinol, dywedodd 35 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol eu bod yn aelodau o undeb llafur. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn perthyn i undeb llafur (50 y cant) na grwpiau eraill. Dim ond 42 y cant o reolwyr gofal cymdeithasol a 30 y cant o weithwyr gofal a ddywedodd eu bod yn aelodau o undeb (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Beth sy’n digwydd a beth sydd ar y gweill o ran gwella telerau ac amodau
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar wella telerau ac amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwaith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar uchelgais y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol.
Y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol
Mae arwyddion bod cyflogau pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gwella. Cafodd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ei sefydlu yn 2020 i archwilio pethau fel cynyddu cyflogau a gwella amodau gwaith ar draws y sector. Fel rhan o’r fforwm mae’r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau’n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i edrych ar sut i ddefnyddio’r diffiniad o waith teg gyda gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2023b).
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf roedd aelodau'r fforwm yn cydweithio i gynnig y cyflog byw gwirioneddol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. O ganlyniad, mae talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol bellach yn un o’r prif addewidion yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2022b). Fel rhan o’r ymrwymiad parhaus hwn, cafodd awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru £43 miliwn i ddarparu cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref ar gyfer 2022 i 2023 (Llywodraeth Cymru, 2023b). Mae’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol bellach wedi’i gynnwys yng nghyllid cyffredinol awdurdodau lleol. Mae gwaith ar y gweill hefyd i reoleiddio cyfraddau cyflog ym maes gwaith cymdeithasol plant fel rhan o raglen ehangach sy’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol plant sy’n gweithio i asiantaethau (ADSS Cymru, 2024). Mae’r gwaith o gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei werthuso ar hyn o bryd i sicrhau bod dulliau gweithredu yn y dyfodol mor effeithiol â phosibl.
Roedd y fforwm hefyd yn gweithio ar sawl prosiect yn ystod 2024. Roedd un ohonyn nhw yn canolbwyntio ar sefydlu partneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol lle mae undebau llafur, cyflogwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddatblygu modelau arfer gorau ar gyfer gofal cymdeithasol. Gweithiodd y fforwm hefyd ar dâl a chynnydd, hawliau gweithwyr, llais a chynrychiolaeth yn y sector gofal cymdeithasol, a recriwtio rhyngwladol (Llywodraeth Cymru, 2024a). Mae’r fforwm hefyd yn gweithio tuag at gyhoeddi fframwaith gwirfoddol ar gyfer cyflogau mewn rolau gofal uniongyrchol erbyn dechrau 2026.
Cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027
Cafodd Cymru Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ei lansio yn 2020. Mae’n nodi ein hamcanion ar gyfer y gweithlu dros 10 mlynedd. Mae'r cynllun cyflawni gweithlu 2024 i 2027 yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi digwydd. Ac mae’n cynnwys camau’n seiliedig ar yr adborth daeth allan o’n gwaith ymgysylltu, ymgynghori ac arolwg y gweithlu. Mae’r cynllun yn nodi camau gweithredu yn erbyn saith thema wreiddiol strategaeth y gweithlu i greu gweithlu ymrwymedig, brwdfrydig ac iach. Mae hefyd yn cyflwyno mesurau i gefnogi'r broses o ddenu staff, recriwtio, modelau gweithio di-dor, llythrennedd digidol, addysg, arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Mae gweithio di-dor yma yn golygu bod gwahanol rannau o’r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio’n agos i gefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ganddo hefyd dair thema sy’n cydblethu â bob cam gweithredu, sef y Gymraeg, cynhwysiant a llesiant.
Gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar botensial creu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion, a fydd yn rhad ac am ddim. Mae grŵp arbenigol wedi cael ei ffurfio i lunio argymhellion ymarferol ar sut i gyflawni hyn (Llywodraeth Cymru, 2022a).
Mae’r grŵp wedi gwneud awgrymiadau ynghylch sut i gyflawni’r gwerthoedd, yr egwyddorion a’r weledigaeth sy’n cael eu nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn yn cynnwys cefnogi a gwerthfawrogi’r gweithlu drwy gytuno ar safonau cenedlaethol ar gyfer cyflogau, a thelerau ac amodau priodol ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd y gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol yn cynnig adnoddau canolog ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd dysgu a chefnogi cynaliadwy, cefnogi’r gwaith o weithredu safonau cenedlaethol, a chasglu data a’i ddefnyddio i greu newid cadarnhaol. Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn cefnogi’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i ddarparu arweinyddiaeth ac i ddatblygu a gweithredu arferion da a strategaeth yn y sector. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo arferion cynhwysol fel strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026, Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol: 2022 a Chynllun gweithredu LHDTC+ Cymru (Llywodraeth Cymru, 2024b).
Ymlaen
Yn Ymlaen, ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol rhwng 2024 a 2029, rydyn ni’n ymrwymo i gasglu a gwneud synnwyr o ddata ac ymchwil o ansawdd da. Bydd hyn yn ein helpu i wella amodau ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwella canlyniadau i bobl sy’n cael gofal a chymorth. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n parhau i wneud y canlynol:
- defnyddio ymchwil a data i nodi cyfleoedd a heriau yn y dyfodol ac archwilio atebion posibl
- tynnu sylw at y materion anodd sy’n effeithio ar bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac yn cael mynediad ato
- adeiladu'r rhesymau cryf i argyhoeddi eraill o'r angen am newid
- cysylltu pobl â thystiolaeth ac ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru, am Gymru, ac sy’n berthnasol i Gymru
- cyflwyno a hyrwyddo’r dystiolaeth sydd ei hangen i wneud pethau’n wahanol.
Mae cynnal ein gwaith ymchwil a chasglu data ein hunain a chynhyrchu briffiau fel hyn yn ein helpu i gyflawni’r ymrwymiadau hyn.
Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r gweithlu sy’n cael ei ddefnyddio yn y gyfres hon
Mae’r gyfres cipolwg ar y gweithlu yn myfyrio ar ymchwil ddiweddar y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i gynnal a’i gomisiynu sy’n ymwneud â’r gweithlu. Mae’r papur briffio hwn ar wella telerau ac amodau yn dwyn ynghyd wybodaeth o brosiectau ac adroddiadau diweddar, gan gynnwys:
- Adroddiad casgliad data’r gweithlu, 2023. Mae hwn yn adrodd ar ddata a gasglwyd gan ddarparwyr am eu gweithlu. Mae’n cynnwys data am oddeutu 53,000 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025).
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2024. Mae hwn yn adrodd ar ganlyniadau arolwg oedd ar agor i bawb sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cynnwys data ar 5,024 o weithwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Cyfeiriadau -
ADSS Cymru (2024) Addewid Cymru Gyfan newydd yn dod i rym, ar gael yn https://adss.cymru/cy/blog/post/all-wales-pledge-version-2 (cyrchwyd: 12 Mehefin 2024).
Alma Economics (2024) Gwerth economaidd a chymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn y DU: Cymru, ar gael yn https://insightcollective.socialcare.wales/assets/documents/Gwerth-economaidd-a-chymdeithasol-y-sector-gofal-cymdeithasol-oedolion-yn-y-DU_Cymru.pdf (cyrchwyd: 13 Chwefror 2025).
Comisiwn Gwaith Teg (2019) Gwaith teg Cymru - Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gwaith-teg-cymru.pdf (cyrchwyd: 6 Chwefror 2024).
Davies, A., Blackwell, C., Ellies, W., Padley, M., Stone a J., Balchin, E. (2024) A Minimum Income Standard for the United Kingdom in 2024, Sefydliad Joseph Rowntree, ar gael yn https://www.jrf.org.uk/a-minimum-income-standard-for-the-united-kingdom-in-2024 (cyrchwyd: 2 Rhagfyr 2024).
GIG Cymru (2024) Arolwg Staff GIG Cymru 2023: Adroddiad Canfyddiadau Cenedlaethol, ar gael yn aagic.gig.cymru/files/2023-staff-survey-report-cymraeg/ (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2023, heb ei gyhoeddi) Arolwg o Farn y Cyhoedd.
Gofal Cymdeithasol Cymru (2024) Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2024, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/reports/arolwg-dweud-eich-dweud-y-gweithlu-2024-adroddiad-llawn-a-chrynodeb-o-ymatebion (cyrchwyd: 29 Ionawr 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2025) Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol 2023, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/ymchwil-a-data/adroddiadaur-gweithlu (cyrchwyd: 19 Chwefror 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2020) Cymru Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/cms-assets/documents/Workforce-strategy-CYM-March-2021.pdf (cyrchwyd: 15 Ebrill 2024).
James, R. (2022) Gofal Cymdeithasol: gweithlu mewn argyfwng?, Senedd Cymru, ar gael yn https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/gofal-cymdeithasol-gweithlu-mewn-argyfwng/ (cyrchwyd: 6 Chwefror 2024).
Krause, G., Johnson, E.K. a Reynolds, R. (2024a) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2023, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/gwella-telerau-ac-amodau-gweithlu-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Krause, G., Johnson, E.K. a Reynolds, R. (2024b) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: gwerthfawrogi gwaith gofal cymdeithasol yng Nghymru 2023, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/gwerthfawrogi-gwaith-gofal-cymdeithasol (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Llywodraeth Cymru (2022a) Sefydlu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sefydlu-gwasanaeth-gofal-chymorth-cenedlaethol (cyrchwyd: 6 Chwefror 2024).
Llywodraeth Cymru (2022b) Gweinyddu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/gweinyddur-cyflog-byw-gwirioneddol-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-cymdeithasol (cyrchwyd: 2 Mai 2024).
Llywodraeth Cymru (2023a) Ailgydbwyso’r rhaglen gofal a chymorth: crynodeb o’r canlyniad, ar gael yn https://www.llyw.cymru/y-rhaglen-ailgydbwyso-gofal-chymorth (cyrchwyd: 15 Ebrill 2024).
Llywodraeth Cymru (2023b) Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: adroddiad cynnydd blynyddol 2023, ar gael yn https://www.llyw.cymru/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol-adroddiad-cynnydd-blynyddol-2023-html (cyrchwyd: 6 Chwefror 2024).
Llywodraeth Cymru (2024a) Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: adroddiad cynnydd blynyddol 2024, ar gael yn https://www.llyw.cymru/fforwm-gwaith-teg-gofal-cymdeithasol-adroddiad-cynnydd-blynyddol-2024-html (cyrchwyd: 18 Tachwedd 2024).
Llywodraeth Cymru (2024b) Lansio’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn swyddogol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/lansior-swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth-yn-swyddogol (cyrchwyd: 28 Ionawr 2025).
Llywodraeth y DU (2024) Statutory Sick Pay (SSP), ar gael yn https://www.gov.uk/statutory-sick-pay (cyrchwyd: 9 Rhagfyr 2024).
Ravalier, J., Morton, R., Russell, L. a Rei Fidalgo, A. (2019) ‘Zero-hour contracts and stress in UK domiciliary care workers’, Health and Social Care in the Community, 27 (2), tt. 348-355, doi: 10.1111/hsc.12652.
Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) Earnings and hours worked, occupation by four-digit SOC: ASHE Table 14. 2023 revised edition of this dataset, ar gael yn https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/datasets/occupation4digitsoc2010ashetable14 (cyrchwyd: 13 Rhagfyr 2024).