
Cefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024
Lluniwyd gan Dr Grace Krause, golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Rhian Reynolds
Yn y papur briffio hwn, rydyn ni wedi casglu canfyddiadau o'n gwaith ymchwil er mwyn archwilio profiadau'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â'u llesiant.
Rydyn ni’n ystyried sut mae llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yn cymharu â'r boblogaeth gyffredinol, a'r cysylltiad rhwng llesiant ac amodau gwaith. Hefyd, rydyn ni’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sydd ar y gweill i gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Y gweithlu gofal cymdeithasol mewn niferoedd
Mae’n cael ei amcangyfrif bod 88,232 o bobl yn rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025). Cafodd ein hail arolwg Dweud Eich Dweud ei gynnal yn 2024 i archwilio sut mae pobl yn teimlo am weithio ym maes gofal cymdeithasol. Cawsom ymatebion gan 3,307 o weithwyr gofal, 461 o reolwyr gofal cymdeithasol, 838 o weithwyr cymdeithasol, a 418 o bobl mewn rolau eraill. Hefyd, cafodd ddau grŵp ffocws a 27 o gyfweliadau eu cynnal er mwyn dysgu mwy am brofiadau gweithwyr gofal cymdeithasol.
Er ein bod wedi gofyn rhai o'r un cwestiynau y llynedd i'r gweithlu, roedd gwahaniaethau hefyd. O ganlyniad, nid yw popeth sy’n cael ei gynnwys yn y papurau briffio blaenorol yn ymddangos yn y papur hwn (Krause et al., 2024a; Krause et al., 2024b).
Dyma rai o'r pethau pwysig a ddysgom gan y rhai a ymatebodd i'n harolwg Dweud Eich Dweud (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
- dywedodd 77 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol fod eu morâl yn dda
- roedd lefelau boddhad bywyd a hapusrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn is na'r boblogaeth gyffredinol, ac roedd eu lefelau gorbryder yn uwch
- dywedodd 57 y cant eu bod yn cael trafferth anghofio am y gwaith ar ôl cyrraedd adref
- awgrymodd 41 y cant eu bod yn derbyn digon o gefnogaeth i ddelio â straen
- yr achosion pennaf o straen cafodd eu nodi oedd llwyth gwaith (39 y cant), gwaith papur neu lwyth gwaith gweinyddol (33 y cant) a phryderu am bethau y tu allan i'r gwaith (25 y cant)
- awgrymodd 52 y cant eu bod wedi mynd i'r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylent fod wedi aros gartref
- mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu cydweithwyr (79 y cant) a'u rheolwr (70 y cant)
- nid yw 14 y cant o'r gweithlu yn teimlo'n ddiogel yn y gwaith, ac mae'r ffigur hwn yn codi i 22 y cant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol
- mae gan 38 y cant o'r gweithlu fynediad at dâl salwch y tu hwnt i dâl salwch statudol, ond mae'r ganran hon yn is ar gyfer gweithwyr gofal (31 y cant)
- dywedodd 57 y cant fod y staff cywir yn darparu'r gwasanaethau.
Mae'r arolwg Dweud Eich Dweud yn ystyried profiad pobl o weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Arolwg Staff GIG Cymru 2023 (GIG Cymru, 2024) yn gofyn i bobl am eu profiadau o weithio fel gweithwyr iechyd yn y GIG yng Nghymru. Yn y papur briffio hwn, rydyn ni’n cymharu'r data ar gyfer cwestiynau sydd yr un fath yn y ddau arolwg. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn dangos sut y gallai profiadau'r gweithlu gofal cymdeithasol a gweithlu'r GIG yng Nghymru fod yn debyg neu'n wahanol.
Sut mae llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yn cymharu â gweddill y boblogaeth?
Roedd arolwg Dweud Eich Dweud yn gofyn i weithwyr gofal cymdeithasol am eu hamodau gwaith ac am eu hiechyd a'u llesiant yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Cafodd y mesur 'ONS4' ei ddefnyddio er mwyn gwerthuso llesiant personol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2025). Mae’n bosib defnyddio'r mesur hwn i gymharu'r gweithlu gofal cymdeithasol a'r boblogaeth yn gyffredinol. Fe wnaethom gymharu canlyniadau'r arolwg Dweud eich Dweud â chanlyniadau o bob cwr o Gymru (Llywodraeth Cymru, 2024a) a ledled y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2023). Roedd y sgôr ar gyfer canlyniadau boddhad bywyd, teimlo bod bywyd yn werth chweil, hapusrwydd a gorbryder yn is ymhlith y gweithlu gofal cymdeithasol na chyfartaledd Cymru a'r DU (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024). Roedd gwahaniaethau rhwng sgoriau mathau o weithwyr gofal cymdeithasol, ond roedd sgôr pob un ohonyn nhw’n is ar gyfartaledd na chyfartaledd Cymru a'r DU.

Roedd y gweithlu gofal cymdeithasol yn sgorio'n waeth am foddhad bywyd, teimlo bod bywyd yn werth chweil, hapusrwydd a gorbryder na sgoriau ar gyfartaledd Cymru a'r DU
Boddhad bywyd
lle mai 0 yw "ddim yn fodlon o gwbl" a 10 yw "cwbl fodlon”
- Gweithlu gofal cymdeithasol: 6.54 (DU: 7.45; Cymru: 7.6).
Teimlo bod y pethau rydych chi'n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil
lle mai 0 yw "ddim yn werth chweil" a 10 yw "yn gwbl werth chweil"
- Gweithlu gofal cymdeithasol: 7.11 (DU: 7.73; Cymru: 7.9).
Hapusrwydd
"Ar y cyfan, pa mor hapus oeddech chi'n teimlo ddoe, lle mai 0 yw 'ddim yn hapus o gwbl' a 10 yw 'cwbl hapus’?”
- Gweithlu gofal cymdeithasol: 6.58 (DU: 7.39; Cymru: 7.6).
Gorbryder
lle mai 0 yw "ddim yn orbryderus o gwbl" a 10 yw "yn gwbl orbryderus”
- Gweithlu gofal cymdeithasol: 4.35 (DU: 3.23; Cymru: 2.9).
Dywedodd rhai cyfranogwyr yn ein harolwg fod eu gwaith wedi cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl. Cyfeiriodd nifer o bobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau a grwpiau ffocws at ddioddef lefelau uchel o straen, gyda rhai yn datgelu eu bod wedi cael ymyriadau meddygol i reoli hyn.
Pa ffactorau sy'n effeithio ar lesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Roedd ffactorau eraill yn effeithio ar lesiant ac iechyd staff gofal cymdeithasol gan gynnwys:
- llwyth gwaith a lefelau staffio
- teimlo'n ddiogel yn y gwaith
- bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
- cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Rydyn ni’n gwybod hefyd fod yr holl ffactorau hyn yn effeithio ar drosiant staff (Urban Foresight a Deerfield, 2024).
Llwyth gwaith a lefelau staffio
Yn ôl y gweithlu, yr achos mwyaf cyffredin o straen oedd llwyth gwaith. Roedd hyn yn wir ym mhob grŵp gwaith. Awgrymodd dros hanner y rheolwyr a'r gweithwyr cymdeithasol mai llwyth gwaith oedd prif achos eu straen. Dywedodd 33 y cant o weithwyr gofal yr un peth. Yr ail achos mwyaf cyffredin o straen oedd dyletswyddau gweinyddol. Roedd y ganran hon yn uwch ar gyfer rheolwyr a gweithwyr cymdeithasol, a nododd 46 y cant o reolwyr a 52 y cant o weithwyr cymdeithasol fod dyletswyddau gweinyddol yn un o brif achosion straen. Ond hwn oedd yr ail ateb mwyaf cyffredin ymhlith gweithwyr gofal hefyd, gyda 26 y cant yn nodi bod dyletswyddau gweinyddol yn ffynhonnell straen. Y trydydd ymateb mwyaf cyffredin yn y tri grŵp gwaith (gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr) oedd straen sy'n gysylltiedig â bywyd cartref. Cafodd hyn ei nodi gan 25 y cant o'r holl ymatebwyr.
Cyfeiriodd llawer at ddisgwyliadau gwaith afrealistig hefyd. Nododd ymatebwyr nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i deithio rhwng ymweliadau a bod y teithio’n aml yn ddi-dâl (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Mae'n fwy na thebyg fy mod i'n torri'r terfyn cyflymder i gyrraedd y gwaith yn brydlon a gwneud fy ngwaith yn iawn.” (Cyn-weithiwr cymorth)
“Pan oeddwn i'n gweithio 70 awr yr wythnos, roeddwn i’n cael fy nhalu am weithio 55 awr oherwydd roedd yr oriau eraill yn amser teithio.” (Gweithiwr cymorth cymunedol)
Bu'r cyfranogwyr yn siarad am orfod cymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch yn deillio o straen gwaith, ac effaith ddilynol absenoldebau ar lefelau staffio (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Maen nhw i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod hir oherwydd salwch. Dydyn nhw ddim yn sâl am wythnos yn unig. […] Maen nhw i ffwrdd. Dyna fe. Maen nhw'n absennol o'r gwaith, a phan fyddan nhw'n dod nôl wedyn, dyw pethau ddim wedi newid. Mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu achos fod pethau'n fwy di-drefn, felly maen nhw'n gadael am byth wedyn.” (Swydd anhysbys)
Dywedodd gweithwyr gofal cymdeithasol fod prinder staff yn broblem gyffredin sy'n cael effaith fawr arnyn nhw a'r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod yn gorfod gwneud iawn am brinder staff neu ddiffyg hyfforddiant priodol rhai aelodau staff. Disgrifiodd rhai'r straen a'r ansefydlogrwydd sy'n deillio o hyn (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
"Ydy hyn yn creu straen? Yn bendant! Does dim dau ddiwrnod yr un fath ac ar ddiwedd y dydd dwi'n nyrs hefyd. Mae gwaith nyrsio yn achosi straen, mae rheoli gofal iechyd yn achosi straen. Dyna'r sefyllfa, ond rhaid ceisio delio â straen." (Nyrs gofrestredig ym maes gofal cymdeithasol)
Gwyddom fod llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn dechrau gweithio yn y sector oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Helpu pobl i gael bywyd da yw un o'r prif bethau maen nhw'n ei fwynhau am eu gwaith (Krause et al., 2025). Fel y mae dyfyniadau gan y gweithlu yn ei ddangos, mae'n bosibl y bydd pobl sy'n darparu gofal yn teimlo'n ofidus pan na allan nhw ddiwallu anghenion pobl (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Roedd y cyfan yn gymaint o straen. A phan fyddai'r cleient penodol hwnnw'n dweud, 'Allwch chi ddim mynd eto oherwydd dwi eisiau hyn a'r llall ...'. Ac yna rydych chi'n egluro, mae'n ddrwg gen i, ond mae'n rhaid i mi [fynd] oherwydd mae'n rhaid i mi fod yn rhywle arall ….” (Cyn-weithiwr cymorth gofal cymdeithasol)
Effaith arall prinder staff cronig yw'r posibilrwydd na fydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo y gallan nhw gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Neu fod diffyg caniatâd os yw'r angen yn codi:
“Roedd partner fy nghydweithiwr wedi cael llawdriniaeth [a] doedd hi ddim yn gallu cael amser i ffwrdd ... Mae pawb ar absenoldeb salwch neu ar wyliau ... pan ffoniodd hi’r goruchwyliwr a oedd ar ddyletswydd ... yr ymateb oedd, 'wel alla i ddim gwneud i staff ymddangos o nunlle’ a bu'n rhaid iddi aros.” (Swydd anhysbys)
Dywedodd 52 y cant o'r ymatebwyr eu bod wedi gweithio o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl fel y dylent fod wedi cymryd absenoldeb salwch. Dywedodd rhai eu bod wedi gwneud hyn rhwng dwy a phum gwaith (34 y cant) a chyfaddefodd 18 y cant eu bod wedi gwneud hyn fwy na phum gwaith. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r ffaith nad yw llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn gymwys i dderbyn tâl salwch (Krause et al., 2025). Fodd bynnag, nid oedd unrhyw gynnydd mewn achosion o weithio pan oedd pobl yn sâl ymhlith grwpiau o weithwyr sydd â chontractau anniogel ac sydd â llai o fynediad at dâl salwch. Yn hytrach, rheolwyr (20 y cant) oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi gweithio fwy na phum gwaith pan oedden nhw’n sâl. Rheolwyr a gweithwyr cymdeithasol (37 y cant yr un) oedd fwyaf tebygol o fod wedi gweithio rhwng dwy a phum gwaith pan oedden nhw’n sâl.

Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr eu bod wedi gweithio o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod yn ddigon sâl i gymryd absenoldeb salwch
Teimlo'n ddiogel yn y gwaith
Er bod 66 y cant o'r holl ymatebwyr wedi dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel yn eu swydd, dywedodd 14 y cant nad ydyn nhw’n teimlo'n ddiogel. Roedd y niferoedd hyn yn amrywio yn ôl grŵp swyddi, a dywedodd 12 y cant o weithwyr gofal a 13 y cant o reolwyr eu bod yn teimlo'n anniogel yn y gwaith, o'i gymharu â 22 y cant o weithwyr cymdeithasol. Y ddau ateb mwyaf cyffredin o ran beth sy’n gwneud i bobl deimlo’n anniogel yn y gwaith oedd pwysau gwaith a diogelwch corfforol yn y gwaith.
Pwysau gwaith
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros deimlo'n anniogel yn y gwaith oedd diffyg cefnogaeth gan reolwyr, diffyg diogelwch swyddi, a llwyth gwaith gormodol. Awgrymodd yr ymatebwyr nad oedden nhw’n teimlo bod rheolwyr yn eu cefnogi os oedden nhw wedi cael eu hatal dros dro (neu wedi gweld eraill yn cael eu hatal dros dro). Neu os oedd rhywun wedi gwneud honiadau yn eu herbyn. Roedd teimlo nad yw pobl eraill yn gwerthfawrogi eu gwaith, yn ogystal â diffyg polisïau sefydliadol clir i gefnogi gweithwyr hefyd yn arwain at bryderon am ddiogelwch swydd.
Hefyd, dywedodd pobl wrthym eu bod yn teimlo'n anniogel gan fod pwysau ariannol sefydliadol yn gwneud iddyn nhw bryderu am ba mor gynaliadwy yw eu swyddi. Roedd rhai’n teimlo'n anniogel hefyd oherwydd bod llwyth gwaith gormodol yn gwneud iddyn nhw deimlo dan bwysau ac o dan straen. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau Arolwg Staff GIG Cymru, lle dywedodd 32 y cant o'r ymatebwyr eu bod yn wynebu pwysau amser afrealistig yn y gwaith (GIG Cymru, 2024).
Diogelwch corfforol
Roedd ein harolwg Dweud Eich Dweud hefyd yn trafod teimlo'n anniogel yn gorfforol yn y gwaith. Yn benodol, dywedodd rhai fod ymddygiad pobl maen nhw'n eu cefnogi weithiau yn peryglu eu diogelwch corfforol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Mae yna berson ifanc sy'n targedu staff trwy ddefnyddio camdriniaeth a thrais.” (Gweithiwr gofal preswyl i blant)
Cyfeiriodd rhai cyfranogwyr at brofiadau o deimlo'n anniogel yn gorfforol o ganlyniad i ymddygiad pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal. Ac roedd enghreifftiau yn cynnwys bygythiadau o drais corfforol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Do, dwi wedi cael fy mygwth go iawn, mae fy nghar wedi cael ei ddifrodi, dwi wedi cael fy nilyn... oherwydd fy mod i’n gwneud gwaith rheng flaen sy’n ymwneud â symud plant... Mae'n frawychus oherwydd mewn rhai o'r sefyllfaoedd hyn, roeddwn i'n ymweld â phlant ar y gofrestr ar fy mhen fy hun, ac yna wythnos yn ddiweddarach roeddwn i'n mynd i'r un lle gyda chwe heddwas. Roeddwn i'n meddwl wedyn, wel, dwi wedi bod yn mynd yno ers misoedd ar fy mhen fy hun. Felly, mae'n codi ofn arna’i weithiau wrth feddwl yn ôl am rai o'r sefyllfaoedd hynny oherwydd mi ges i fy mygwth sawl gwaith.” (Unigolyn Cyfrifol)
Mynegodd cyfranogwyr bryder am y diffyg cefnogaeth sy'n cael ei chynnig gan eu sefydliadau, a'r ffaith fod y swydd yn anodd iawn i bobl sy'n gweithio yn y sector am y tro cyntaf (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Felly, mae bron â bod yn amhosibl i bobl sydd newydd gymhwyso neu sydd wedi bod yn y swydd ers dwy flynedd, a dwi wir yn teimlo drostyn nhw. A dyma'r rheswm pam rydyn ni'n colli pobl, oherwydd dydyn nhw ddim yn cael eu cefnogi.” (Swydd anhysbys)
Dywedodd cyfranogwyr wrthym fod gweithio'n unigol yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy anniogel hefyd (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Weithiau rydyn ni'n agored iawn i niwed oherwydd ein bod ni'n gweithio'n unigol. Weithiau dwi ddim yn meddwl bod digon o gefnogaeth.” (Gweithiwr cymorth)
“Yn aml, mae'n rhaid i mi ymweld â theuluoedd yn dilyn atgyfeiriadau o gam-drin yn erbyn plant lle mae'r cyflawnwr yn bresennol. Does dim polisi ar gyfer gweithio'n unigol yn fy ngweithle, a does dim modd sicrhau bod gweithwyr yn ddiogel ar ôl ymweliadau.” (Gweithiwr cymdeithasol – plant a theuluoedd)
Hefyd, cyfeiriodd cyfranogwyr at y ffaith ei bod yn anodd gofyn am gyngor yn ymwneud â'u gwaith oherwydd goblygiadau cyfrinachedd. Nododd rhai y byddai mynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl yn helpu yn hyn o beth (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Oherwydd y cyfrinachedd hefyd ... allwch chi ddim siarad â neb y tu allan i'r tîm am bethau sy'n digwydd, ac mae hynny'n anodd iawn. Dyna pam dwi’n credu y dylai cwnselwyr fod ar gael i bawb 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn debyg i linell gymorth. Gallan nhw ffonio a bwrw’u boliau neu beth bynnag.” (Rheolwr cartref gofal i oedolion)
Bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
Yn ein harolwg, roedd cwestiwn am brofiadau pobl o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Roedd yn gysur clywed bod dros 90 y cant yn dweud nad oedden nhw wedi wynebu unrhyw fath o fwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu gan reolwyr, cydweithwyr neu'r unigolion a'r teuluoedd roedden nhw wedi'u cefnogi yn ystod y 12 mis diwethaf. Mewn cyferbyniad, dangosodd Arolwg Staff diweddaraf GIG Cymru fod 25.15 y cant wedi wynebu bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod y 12 mis diwethaf gan bobl sy'n cael mynediad at ofal, eu perthnasau neu aelodau eraill o'r cyhoedd. Dywedodd 9.94 y cant arall eu bod wedi cael eu trin fel hyn gan reolwyr, a dywedodd 17.66 y cant eu bod wedi dioddef triniaeth o'r fath gan gydweithwyr eraill (GIG Cymru, 2024).

Roedd y mwyafrif yn dweud nad oedden nhw wedi profi unrhyw fath o fwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu yn ystod y 12 mis diwethaf
Cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi
Roedd lefel y cymorth yr oedd pobl yn ei dderbyn gan eu sefydliadau yn cael effaith fawr ar deimladau am ddiogelwch. Dywedodd rhai bod cymorth ar gael iddyn nhw, a bod hyn wedi eu helpu i deimlo'n fwy diogel yn y gwaith (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Mae pobl yn gallu bod yn heriol iawn a chreu sefyllfaoedd anodd, ond rydyn ni’n derbyn cymorth bob amser gan staff eraill neu nyrsys iechyd meddwl cofrestredig. Felly, os ydw i'n methu delio â'r sefyllfa, dwi’n teimlo bob amser fy mod i’n ddiogel i gamu o'r neilltu ac y bydd pobl yn fy amddiffyn." (Rheolwr cartref gofal i oedolion)
Roedd cyfranogwyr eraill yn teimlo bod hyfforddiant - er enghraifft, er mwyn ymdopi ag anghenion cymhleth - wedi eu helpu i deimlo eu bod yn derbyn cymorth priodol. Dywedodd rhai cyfranogwyr a oedd wedi symud o swyddi gofal uniongyrchol i swyddi rheoli bod y gwersi o'u profiadau negyddol yn y gorffennol wedi’u helpu i ddarparu digon o gymorth i'w staff (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“mae gennym ni weithdrefnau ar waith i bobl eu dilyn ... o ran sut i ymdopi â'r sefyllfaoedd hyn... felly dwi’n siwr bod profiad personol o sefyllfaoedd o’r fath yn helpu rhywun i ddeall profiad gweithwyr a sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud.” (Rheolwr gofal cymdeithasol)
Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi na'u cydnabod (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Does neb yn gwrando arnom ni. Does neb yn gwerthfawrogi syniadau gofalwyr oherwydd ein bod ni mor isel [...] ar y raddfa gyflog.” (Gweithiwr gofal cartref)
Ond mewn ymateb i holiadau ynglŷn â’r graddau roedden nhw’n teimlo eu bod yn derbyn cefnogaeth yn gyffredinol, dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eu bod wedi derbyn cefnogaeth dda bob amser neu'r rhan fwyaf o’r amser gan reolwyr (70 y cant) a chymheiriaid (79 y cant). Roedd y rhan fwyaf (77 y cant) yn credu bod morâl staff yn dda. Yn yr un modd, awgrymodd yr ymatebwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan reolwyr (70 y cant), cydweithwyr (80 y cant), a'r unigolion a'r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi (80 y cant). Ond roedd llai yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner (57 y cant) a'r cyhoedd yn gyffredinol (51 y cant) (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024). Mae’r teimlad o fewn y gweithlu nad yw'r cyhoedd yn gwerthfawrogi eu gwaith yn cyferbynnu â rhywfaint o ddata sydd gennym ar farn y cyhoedd o ofal cymdeithasol. Mewn arolwg yn 2023 o 1000 o bobl, dywedodd 72 y cant fod ganddyn nhw hyder yn y bobl a oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023b).
Nododd rhai cyfranogwyr fod eu boddhad mewn swydd yn gysylltiedig â sut maen nhw'n teimlo am eu sefydliad. Roedden nhw’n trafod y gwelliannau sy'n cael eu gwneud ac yn siarad mewn ffordd gadarnhaol am eu perthynas ag aelodau eraill o staff (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024):
“Rydyn ni'n rhoi’r gwelliannau hynny ar waith. Mae gennym ni gynlluniau gweithredu, rydyn ni'n cyfarfod gyda'n gilydd, rydyn ni'n hyfforddi gyda'n gilydd, rydyn ni'n edrych ar ein gwerthoedd a'n hamcanion gyda'n gilydd ac ydyn, rydyn ni'n gwneud newidiadau... mae'n rhaid i chi newid pethau er mwyn gwella.” (Rheolwr gofal cymdeithasol)
Beth sy'n digwydd a beth sydd ar y gweill i gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae gwaith eisoes wedi dechrau i gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gyflwyno ein fframwaith iechyd a llesiant ar gyfer y gweithlu, ein strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydlu grŵp arbenigol i gynghori ar gyd-uchelgais y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol.
Hefyd, rydyn ni wedi llunio dau grynodeb tystiolaeth yn ymwneud â chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru:
Fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol
Rydyn ni wedi datblygu ein fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu: Mae eich llesiant yn bwysig (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023a). Nod y fframwaith hwn yw helpu sefydliadau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae i greu gweithle sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo llesiant y gweithlu. Mae'r fframwaith yn cynnwys pedwar ymrwymiad sy'n helpu cyflogwyr i greu amgylchedd gwaith diogel. Rydyn ni wedi datblygu adnoddau i gefnogi hyn hefyd.
Rydyn ni’n cynnal sesiynau gwybodaeth, hyfforddiant a gweithdai er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle gan gynnwys:
- arweinyddiaeth dosturiol
- rôl polisi'r gweithle wrth gefnogi llesiant
- creu lle ar gyfer sgyrsiau cefnogol
- creu diwylliant o siarad yn ddiogel
- diogelwch seicolegol
- cefnogi pobl sy'n gyflogedig ac sydd â rôl ofalu ddi-dâl
- cefnogi llesiant dysgwyr.
Ewch i dudalen ddigwyddiadau Gofal Cymdeithasol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd dysgu diweddaraf.
Hefyd, rydyn ni wedi datblygu modiwlau e-ddysgu yn ymwneud â llesiant y gweithlu. Ym mis Ionawr 2025 gawsom ein hwythnos llesiant y gweithlu cyntaf, a oedd yn cynnwys digwyddiadau ar-lein am ddim i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau.
Cynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol 2024 i 2027
Cafodd Cymru Iachach: Ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ei lansio yn 2020. Mae’n nodi ein hamcanion ar gyfer y gweithlu dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae'r cynllun cyflawni gweithlu 2024 i 2027 yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi digwydd ac mae’n cynnwys camau’n seiliedig ar yr adborth daeth allan o’n gwaith ymgysylltu, ymgynghori ac arolwg y gweithlu. Mae’r cynllun yn nodi camau gweithredu yn erbyn saith thema wreiddiol strategaeth y gweithlu i greu gweithlu ymrwymedig, brwdfrydig ac iach. Mae hefyd yn cyflwyno mesurau i gefnogi'r broses o ddenu staff, recriwtio, modelau gweithio di-dor, llythrennedd digidol, addysg, arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Mae gweithio di-dor yma yn golygu bod gwahanol rannau o’r gweithlu gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio’n agos i gefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ganddo hefyd dair thema sy’n cydblethu â bob cam gweithredu, sef y Gymraeg, cynhwysiant a llesiant.
Gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar botensial creu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion, a fydd yn rhad ac am ddim. Mae grŵp arbenigol wedi cael ei ffurfio i lunio argymhellion ymarferol ar sut i gyflawni hyn (Llywodraeth Cymru, 2022).
Mae’r grŵp wedi gwneud awgrymiadau ynghylch sut i gyflawni’r gwerthoedd, yr egwyddorion a’r weledigaeth sy’n cael eu nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn yn cynnwys cefnogi a gwerthfawrogi’r gweithlu drwy gytuno ar safonau cenedlaethol ar gyfer cyflogau, a thelerau ac amodau priodol ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol yn cynnig adnoddau canolog ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd dysgu a chefnogi cynaliadwy, cefnogi’r gwaith o weithredu safonau cenedlaethol, a chasglu data a’i ddefnyddio i greu newid cadarnhaol. Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn cefnogi’r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i ddarparu arweinyddiaeth ac i ddatblygu a gweithredu arferion da a strategaeth yn y sector. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo arferion cynhwysol fel strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026, Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol: 2022 a Chynllun gweithredu LHDTC+ Cymru (Llywodraeth Cymru, 2024b).
Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r gweithlu sy’n cael ei ddefnyddio yn y gyfres hon
Mae'r gyfres cipolwg ar y gweithlu yn myfyrio ar ymchwil ddiweddar y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i gynnal a’i gomisiynu sy’n ymwneud â’r gweithlu. Mae'r papur briffio hwn ar gefnogi llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dwyn ynghyd wybodaeth o brosiectau ac adroddiadau diweddar, gan gynnwys:
- Adroddiad casgliad data’r gweithlu, 2023. Mae'r adroddiad hwn yn adrodd ar ddata a gasglwyd gan ddarparwyr am eu gweithlu. Mae'n cynnwys data ar tua 53,000 o bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2025).
- Gofal Cymdeithasol Cymru: Dweud eich dweud - canfyddiadau adroddiad 2024. Mae hwn yn adrodd ar ganlyniadau arolwg oedd ar agor i bawb sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cynnwys data ar 5,024 o weithwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws. Yn y testun mae’r astudiaeth hon yn ymddangos fel (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2024).
Cyfeiriadau -
GIG Cymru (2024) Arolwg Staff GIG Cymru 2023: Adroddiad Canfyddiadau Cenedlaethol, ar gael yn https://aagic.gig.cymru/files/2023-staff-survey-report-cymraeg/ (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2023a) Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/adnoddau-iechyd-a-llesiant/mae-eich-llesiant-yn-bwysig-fframwaith-iechyd-a-llesiant-y-gweithlu (cyrchwyd: 15 Ebrill 2024).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2023b, heb ei gyhoeddi) Arolwg o Farn y Cyhoedd.
Gofal Cymdeithasol Cymru (2024) Dweud eich dweud – canfyddiadau adroddiad 2024, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/reports/arolwg-dweud-eich-dweud-y-gweithlu-2024-adroddiad-llawn-a-chrynodeb-o-ymatebion (cyrchwyd: 29 Ionawr 2025).
Gofal Cymdeithasol Cymru (2025) Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol 2023, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/ymchwil-a-data/adroddiadaur-gweithlu (cyrchwyd: 19 Chwefror 2025).
Krause, G., Johnson, E. K. a Reynolds, R. (2024a) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2023, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/gwella-telerau-ac-amodau-gweithlu-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Krause, G., Johnson, E. K. a Reynolds, R. (2024b) Cyfres cipolwg ar y gweithlu: gwerthfawrogi gwaith gofal cymdeithasol 2023, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael ynhttps://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/gwerthfawrogi-gwaith-gofal-cymdeithasol (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Krause, G., Deerfield, K. a Reynolds, R. (2025) Gwella telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru 2024, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/cyfres-cipolwg-ar-y-gweithlu/telerau-ac-amodau-2024 (cyrchwyd: 25 Chwefror 2024).
Llywodraeth Cymru (2022) Sefydlu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sefydlu-gwasanaeth-gofal-chymorth-cenedlaethol (cyrchwyd: 6 Chwefror 2024).
Llywodraeth Cymru (2024a) Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau, ar gael yn https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau (cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Llywodraeth Cymru (2024b) Lansio'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn swyddogol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/lansior-swyddfa-genedlaethol-gofal-chymorth-yn-swyddogol (cyrchwyd: 28 Ionawr 2025).
Urban Foresight a Deerfield (2024) Gwella llesiant a chadw'r gweithlu: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/gwell-llesiant-a-chadw (cyrchwyd: 9 Rhagfyr 2024).
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2023) Personal well-being in the UK: April 2022 to March 2023, ar gael yn https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/wellbeing/bulletins/measurin gnationalwellbeing/april2022tomarch2023 (cyrchwyd: 3 Chwefror 2025).
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2025) Personal well-being user guidance, ar gael yn https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/wellbeing/methodologies/personalwellbeingsurveyuserguide (cyrchwyd: 3 Chwefror 2025).