Tara Hughes
Swyddog ymchwil
tara.hughes@gofalcymdeithasol.cymruYsgrifennwyd gan Tara Hughes, swyddog ymchwil tîm thema gofal cymdeithasol YDG Cymru.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio ochr yn ochr ag Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, rhan o fuddsoddiad YDG DU, ar y rhaglen waith ym maes gofal cymdeithasol. Gall ymchwil data cysylltiedig fod o fudd enfawr pan mae’n cael ei wneud yn ddiogel ac er budd y cyhoedd. Mae’n ein helpu i wneud gwelliannau gwybodus i dirwedd gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru.
Byddwn ni’n canolbwyntio ar sut gallwn ni ddatblygu ymchwil data cysylltiedig mewn ymchwil gofal cymdeithasol oedolion. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd yn y DU ym maes gofal cymdeithasol plant.
Mae ymchwil data cysylltiedig yn nodweddiadol yn defnyddio data sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd. Gall hefyd cael ei alw’n ddata gweinyddol. Mae data gweinyddol yn wybodaeth sy’n cael ei chreu pan fydd pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, y GIG, y llysoedd neu’r system budd-daliadau.
Mae cysylltu gwahanol fathau o ddata gweinyddol sy’n cael ei gadw ar unigolion ar draws sefydliadau gofal cymdeithasol a sefydliadau eraill yn creu cyfoeth o ddata. Gall y data cysylltiedig hwn ddarparu gwybodaeth bwysig a mewnwelediadau pwerus i'n cymdeithas. Mae’n gallu ein helpu i weld lle mae angen newid.
Mae awdurdodau lleol yn casglu data pwysig ar amrywiaeth o wasanaethau, systemau a rhyngweithiadau â’r bobl sy'n cysylltu â nhw. Er enghraifft, gallai hyn fod yn wybodaeth am becynnau gofal unigol neu'r gwasanaethau mae teuluoedd a gofalwyr yn defnyddio. Mae ymchwil data cysylltiedig yn darparu mewnwelediad a dysg trwy ddefnyddio'r data hwn sydd eisoes wedi'i gasglu'n rheolaidd mewn ffordd ddienw, ddiogel a chymeradwy.
Mae hefyd yn bosibl cysylltu'r data sy’n cael ei gasglu’n ddienw â ffynonellau eraill fel data iechyd, tai neu addysg, gan wella dibynadwyedd a chywirdeb y wybodaeth hon yn sylweddol. Mae cysylltu gwahanol ffynonellau data fel y rhain hefyd yn creu cyfleoedd i archwilio effaith ymyriadau gofal cymdeithasol ar fywydau unigolion a theuluoedd dros amser.
I roi enghraifft ymarferol i chi, gallwn fesur effaith darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu ar iechyd a llesiant y gofalwr. Gallwn wneud hyn drwy gymharu data’r is-grŵp gofalwyr di-dâl â gweddill y boblogaeth. Gallai hyn olygu cymharu data o grwpiau oedran tebyg, rhyw, neu hyd yn oed ardal leol.
Mae’r holl ddata sy’n cael ei ddefnyddio a’i gysylltu at ei gilydd i'w ddadansoddi yn cael ei gadw mewn cronfa ddata ddienw a diogel. Yng Nghymru, rydyn ni’n ffodus i gael mynediad i Fanc Data SAIL.
Mae ei enw llawn, y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), yn esbonio ychydig mwy am yr amgylchedd ymchwil dibynadwy (AYD) ar gyfer data ‘dad-adnabyddedig’. Mae hyn yn golygu y gall ymchwilwyr gael mynediad at ddata dienw trwy AYD diogel.
Am ragor o wybodaeth am sut mae eich data yn cael ei ddefnyddio a’i storio o fewn Banc Data SAIL, ewch i Gwneud cais i weithio gyda'r data - Banc Data SAIL.
Rydyn ni’n awyddus i rannu sut y gall ymchwil data cysylltiedig helpu ein gwaith ym maes gofal cymdeithasol. Dyma rai enghreifftiau o effaith ymchwil data cysylltiedig mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu rhoi i ni:
Gallwn ni nodi grwpiau ‘mewn perygl’ neu ‘angen uchel’ a darparu gwasanaethau ataliol ar gyfer y grwpiau hyn.
Mewn astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Abertawe nododd ymchwilwyr a oedd yn cysylltu data heddlu a gofal iechyd unigolion agored i niwed cyn ymyrraeth bosibl gan yr heddlu. Gallai hyn helpu i leihau galwadau’r heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.
Gallwn ni ddarparu gwybodaeth werthfawr i gefnogi cynllunio a chomisiynu gwasanaethau a gwella effeithiolrwydd polisïau dros amser.
Yn ddiweddar bu Care and Repair Cymru yn gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddylunio astudiaeth sy'n gwerthuso effeithiolrwydd addasiadau cartref. Edrychodd yr astudiaeth ar sut y gallai addasu’r cartref atal derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i syrthio ar gyfer pobl hŷn. A hefyd, gwella amseroedd rhyddhau. Cafodd yr astudiaeth ei ddefnyddio fel sail tystiolaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i lywio polisïau sy’n hybu heneiddio’n iach trwy ofal iechyd darbodus ac atal syrthio, cyngor cartref ac ymyriadau addasu-YDG Cymru.
Gallwn ni werthuso gwasanaethau a strategaethau newydd a phresennol yn genedlaethol i asesu eu heffaith a llywio penderfyniadau ariannu neu bolisi yn y dyfodol.
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio effaith gwasanaethau cwnsela ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn asesu effeithiolrwydd ymyrraeth gynnar trwy gwnsela ar gofnodi iselder, pryder a meddyginiaeth.
Ewch i Gofrestr defnyddio data - Banc Data SAIL am enghreifftiau o ffynonellau data sydd ar gael a phrosiectau ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Gallwn eich cefnogi i ddeall pa ddata sydd gennych a sut i’w ddefnyddio i werthuso a gwella gwasanaethau a bywydau pobl. Trwy ddarparu peth o’r data rydych chi’n ei gasglu’n rheolaidd i Fanc Data SAIL gallwch helpu eich tîm, sefydliad, maes gwaith, a chymuned – gan gynnwys yr unigolion neu deuluoedd sy’n defnyddio gofal a chymorth.
Mae ein tudalen ymchwil data cysylltiedig yn rhoi mwy o fanylion ar y gwaith.
Mae Tara Hughes a Lynsey Cross yn arwain ar ein gwaith YDG. Croeso i chi gysylltu os oes gennych gwestiynau neu gyda diddordeb mewn cymryd rhan: tara.hughes@gofalcymdeithasol.Cymru a lynsey.cross@gofalcymdeithasol.Cymru.
Swyddog ymchwil
tara.hughes@gofalcymdeithasol.cymru