Nick Andrews
Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)
Mae Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau er mwyn helpu pobl defnyddio tystiolaeth i drafod, rhannu a dysgu. Un o’r dulliau hyn yw Cymuned ymholi (CY).
Yn y blog hwn byddwn ni'n archwilio digwyddiad lle cafodd y dull hwn ei ddefnyddio'n llwyddiannus.
Yn ddiweddar fe wnaethom gynnal CY gydag awdurdod lleol Torfaen. Thema’r ymchwiliad oedd niwroamrywiaeth.
Roedd yn gyfle i ddwyn ynghyd pobl niwroamrywiol, ymarferwyr ac ymchwilwyr i archwilio a rhannu gwybodaeth. Roeddem yn trafod yr hyn sy'n bwysig wrth weithio gyda phobl niwroamrywiol gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau.
Roedd hwn yn gam defnyddiol tuag at gyd-gynhyrchu gwasanaethau niwroddatblygiadol ac roedd yn helpu pawb a gymerodd ran i weithio tuag at ddealltwriaeth a gweledigaeth gyffredin.
Roedd defnyddio'r dull DEEP yn creu llwyfan i archwilio syniadau a chaniatáu i ystod eang o bobl cael eu cynrychioli a dweud eu dweud.
Mae CY yn cychwyn gyda sbardun (fel rhannu dwy stori ddigidol yn yr achos hwn). Wedyn mae’r grŵp yn meddwl am gwestiynau sy’n ymateb i’r sbardun hwn. Mae’r cwestiwn yn cael ei ddewis yn ddemocrataidd gan aelodau’r ‘gymuned’ a daw’r elfen ‘ymholi’ pan fydd pobl yn rhannu safbwyntiau, gwybodaeth, neu brofiadau sy’n berthnasol.
'A yw'n bosibl normaleiddio derbyn ymddygiadau amrywiol heb fod angen datgelu niwrowahaniaeth?'
- Cwestiwn cymuned Torfaen.
Roedd aelodau'r gymuned yn teimlo bod datgelu niwrowahaniaeth yn benderfyniad personol oherwydd gall pobl niwroamrywiol brofi llawer o heriau, yn enwedig diffyg dealltwriaeth. Cafodd rhai pryderon sylw arbennig, fel yr angen i sicrhau bod mwy o gymorth ar gael i rieni niwroamrywiol.
Er hynny, cytunodd y grŵp fod arferion ac agweddau mwy cynhwysol yn dod yn fwy amlwg. Un enghraifft nodedig oedd cerddorfa ieuenctid sy'n cynnal perfformiadau 'hamddenol' ar gyfer pobl niwroamrywiol.
Fe wnaethon ni hefyd ddysgu bod angen i ni rannu a dathlu cryfderau pobl niwroamrywiol, a’r ffyrdd maen nhw'n cyfrannu at gymdeithas.
"Roedd mynychu'r gymuned ymholi yn brofiad hynod bositif. Mynychodd pobl a oedd yn wybodus iawn ond oedd heb cael eu cynnwys yn ein trafodaethau o’r blaen. Bydd hyn yn help aruthrol i lywio ein cynlluniau niwroddatblygiadol lleol. Roedd y broses yn sicr wedi herio fy nhybiaethau blaenorol ac wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o niwrowahanrwydd. Mae wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu dull sy'n wirioneddol seiliedig ar gryfderau yn Nhorfaen."
- Jim Wright, awdurdod lleol Torfaen.
Mae defnyddio'r dull CY yn caniatáu rhannu safbwyntiau a phrofiadau amrywiol ac mae cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys. Fe wnaethon ni i gyd sylweddoli a gwerthfawrogi cymhlethdod yr ymholiad a gadael y gweithdy gyda mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth.
I ddysgu mwy am ddulliau DEEP ewch at wefan DEEP.
Mae mwy o wybodaeth ar holl ddigwyddiadau DEEP, gan gynnwys sesiynau byr ar y dull Cymuned Ymholi, ar ein tudalen digwyddiadau.
Swyddog ymchwil a datblygu ymarfer (DEEP)