Skip to Main content

Cymunedau ymarfer: sut gallan nhw gefnogi eich dysgu mewn gofal cymdeithasol

06 Rhagfyr 2023

Ysgrifennwyd gan Lilla Ver, Rheolwr cymuned, Cymuned gofal sy'n seiliedig ar le.

Beth yw cymunedau ymarfer?

Os ydych chi’n chwilio am ddysgu mewn gofal cymdeithasol, efallai nid ‘cymunedau ymarfer’ yw’r term cyntaf y byddech chi’n meddwl teipio yn y peiriant chwilio. Ond mae’n bosib gewch chi syndod braf i ddysgu faint sydd ganddyn nhw i'w gynnig.

Yn ôl Etienne a Beverly Wenger-Traynor, mae cymunedau ymarfer yn “grwpiau o bobl sy’n rhannu pryder neu angerdd am rywbeth maen nhw’n gwneud ac yn dysgu sut i’w wneud yn well wrth iddyn nhw ryngweithio’n rheolaidd”. Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, sefydlon ni ein cymunedau i gefnogi pobl yn y sector a thu hwnt i adeiladu rhwydweithiau, cydweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Rydyn ni’n awyddus fod y cymunedau’n ‘ganolfan ddiogel’ i aelodau, sy’n aml yn gweithredu fel sylfaen ddiogel i eraill. Ein nod ni yw gwneud i bobl deimlo'n ddiogel i archwilio pynciau sy'n bwysig iddyn nhw. Gyda'r gymuned y tu ôl iddyn nhw, mae aelodau'n gwybod y gallan nhw rannu, gofyn cwestiynau, a chael cefnogaeth.

Sut maen nhw'n gweithio?

Mae gan y cymunedau blatfform ar-lein sy'n cynnwys blogiau, fforwm ar gyfer trafodaethau ac adnoddau eraill. Ond rydyn ni hefyd yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd i helpu pobl i gwrdd ag aelodau eraill a rhannu eu profiadau. Gall hyn helpu i gychwyn sgyrsiau a chydweithrediadau all-lein hefyd.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae gan bob cymuned reolwr cymunedol gall eich cysylltu chi ag aelodau eraill a'ch cefnogi chi i gael mynediad i ddysgu a rhannu dysg. Mae’n rhad ac am ddim i fod yn rhan o gymuned ac mae’r holl weithgareddau cysylltiedig am ddim hefyd. Rhwng pwysau bywyd a gwaith, rydyn ni’n deall bod e’n anodd cael y gofod meddyliol ar gyfer dysgu. Dyma pam rydyn ni wedi sicrhau eich bod chi’n gallu gwneud beth sy’n gweithio orau i chi. Gallwch chi ymuno â ni ar-lein (ar y platfform) neu ym mherson pan fydd amser gyda chi.

Pam ymaelodu?

Gall ymuno gyda chymuned bod yn fuddiol am lawer o resymau. Efallai hoffech chi ddysgu oddi wrth eraill a chlywed safbwyntiau gwahanol. Efallai bod gennych chi awydd dathlu beth sydd wedi gweithio’n dda neu fyfyrio ar yr hyn na weithiodd cystal. Efallai eich bod chi am ddod o hyd i bobl o'r un anian gall ddod yn rhan o'ch system gymorth. Neu rydych chi eisiau gwneud eich gorau i gefnogi’r bobl o'ch cwmpas. Gall ein rhesymau ni fod yn wahanol, ond mae gan bawb rywbeth gwerthfawr i'w gynnig i'r gymuned.

Mae ein cymunedau ymarfer yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau a siarad am bethau sy'n bwysig i chi. Gall sgwrs a thrafod symud pethau ymlaen ac ysbrydoli newid.

Darganfyddwch fwy am y gwahanol gymunedau, pa un sy’n iawn i chi a sut gallwch chi ymuno.

Ymunwch â ni a gadewch i ni ddysgu gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y sector gofal cymdeithasol.

Awdur y blog

Lilla Ver

Lilla Ver

Rwy'n gofalu am ein Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le. Fy rôl i yw creu a meithrin gofod i bobl ddysgu gyda'i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae fy mhrofiadau blaenorol yn cynnwys datblygu llwybrau cymorth yn y systemau cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau, a rheoli prosiectau.